Ganwyd Lewis ym Mrynbuga yn fab i Charles Lewis a Martha (née Goodman ) ei wraig. Roedd y teulu yn ddi-gymraeg a phrin oedd ymwybyddiaeth y Tony ifanc o Gymreictod [1] yn wir roedd nifer o bobl Sir Fynwy yng nghyfnod ieuenctid Tony yn credu mai rhan o Loegr nid o Gymru oedd y sir. Wrth wneud gwasanaeth milwrol gorfodol yn y RAF yn Yr Almaen yn y 1950au, cafodd Lewis ei alw'n "Taff", ei wawdio am ei acen a'i fychanu am fod yn Gymro; canlyniad y driniaeth wrth Gymreig hyn oedd gwneud Lewis yn ymwybodol ac amddiffynnol o'i Gymreictod a magodd ynddo awch i ddysgu rhagor am hanes a diwylliant ei wlad[2].
Priododd Gillian Pewtner ym 1958, bu iddynt mab a merch.[3]
Cenedlaetholwr
Wedi ymadael a'r lluoedd arfog bu Lewis yn gweithio fel gyrrwr bys yn Nhredegar, yn y cyfnod hwn ymunodd â Phlaid Cymru ac yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn Abergwaun 1964 cyfarfu a Gethin ab Iestyn; sefydlodd y ddau fudiad o'r enw The Anti Sais Front. Mudiad i genedlaetholwyr di-gymraeg.[4]
Yn deillio o'r Anti Sais Front ffurfiodd Gethin a Lewis y Ffrynt Gwladgarol, gyda'r nod o recriwtio ym mysg y boblogaeth Gymreig mwyafrifol sef yr uniaith Saesneg a oedd, yn eu tyb hwy, yn cael eu hesgeuluso gan Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith. Enillodd y Ffrynt Gwladgarol cryn gefnogaeth a sefydlwyd canghennau yn Aberdâr, y Rhondda a Chwmbrân lle agorodd Tony Lewis clwb, y Patriots Rest, ym Mhontnewydd. Y bwriad oedd i'r Ffrynt Gwladgarol bod yn adran o fewn Plaid Cymru i ddarparu ar gyfer elfennau mwy milwriaethus y Blaid; ond wedi cael ei phlas cyntaf ar fuddugoliaeth gyfansoddiadol gyda Gwynfor Evans yn ennill isetholiad Caerfyrddin nid oedd y Blaid am gael ei gysylltu gyda mudiad milwriaethus mewn lifrau, a phenderfynodd Cynhadledd y Blaid yn Nolgellau 1966[5] nad oedd aelodaeth o'r Ffrynt yn gydnaws ac aelodaeth o'r Blaid a diarddelwyd ei harweinwyr.
FWA
Pan ffurfiwyd Byddin Rhyddid Cymru gan Julian Cayo-Evans ym 1963, bu Lewis yn un o'i aelodau cynharaf. Lewis oedd yn gyfrifol am gynllunio a chreu bathodyn penwisg y fyddin, yr Eryr Wen, dyma oedd ei ymgais gyntaf i greu ardduniad metel. Fel aelodau eraill y fyddin byddai Lewis yn gwisgo lifrau'r fyddin mewn gorymdeithiau cenedlaetholgar ac o flaen newyddiadurwyr ond yn achlysurol byddai Lewis yn gwisgo lifrau morwrol gan hawlio fod yn Llyngesydd Llynges Rhyddid Cymru[6].
Ym 1969, rhoddwyd naw o alodau blaenllaw Byddin Rhyddid Cymru ar brawf gan yr awdurdodau Prydeinig, gyda Lewis yn eu plith. Cyhuddwyd Lewis o ddau drosedd o dan Ddeddf y Drefn Cyhoeddus sef rheoli grŵp terfysg a threfnu grŵp terfysg, fe'i cafwyd yn euog o drefnu ond yn ddieuog o reoli, ac fe'i dedfrydwyd i 8 mis o garchar wedi ei ohirio am dair blynedd. Er bod y barnwr wedi honni wrth y llys ei fod wedi trin Lewis gyda thrugaredd wrth ohirio ei ddedfryd ymddengys ei fod wedi anghofio ei fod eisoes wedi bod dan glo am 4 mis yn disgwyl diwedd yr achos.[7]
Crefftwr
Ar ôl yr achos llys symudodd Lewis i Ynys Manaw lle sefydlodd gweithdy gofaint mewn metelau drudfawr; cafodd comisiwn gan Senedd yr Ynys i greu cyfres o fedalau ar arddull Celtaidd, symudodd ei weithdy i Ddolgellau ar ddiwedd y 1970au gan ennill enw da fel crefftwr o'r radd blaenaf. Creodd nifer wobrau eisteddfodol, medal i ddathlu 700 mlwyddiant marwolaeth Llywelyn ein Llyw olaf a thlws Cymry'r Byd a dyfarnwyd i Gwynfor Evans yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000. Un o nodweddion ei waith mewn aur ac arian oedd ei fod yn gwrthod rhoi'r dilysnod swyddogol Prydeinig arnynt, sydd yn gwneud ei waith, ar y naill law yn anghyfreithiol, ac ar y llaw arall yn ddeniadol iawn i gasglwyr.[8]
Yn ogystal â bod yn grefftwr mewn metelau prin, roedd Tony hefyd yn gerddor crefftus yn canu'r delyn, y pibgorn a'r ffidl,[9] bu yn ei elfen yn ymuno gyda cherddorion traddodiadol eraill mewn sesiynau anffurfiol mewn gwyliau ledled y gwledydd Celtaidd.[10]
↑Tributes to Free Wales Army man, Daily Post 17 Tachwedd 2005 [4] adalwyd 30 Mawrth 2016
↑"Leniency by judge in sentencing six 'lovers of Wales'." Times (London, England) 2 July 1969: 2. The Times Digital Archive. Adalwyd 31 Mawrth 2016. [5]
↑Tributes paid to activist Tony Lewis[6] adalwyd 31 Mawrth 2016
↑Anthony Lewis The Independent 11 November 2005 [7] adalwyd 31 Mawrth 2016
↑"Lives Remembered." Times (London, England) 20 Dec. 2005: 54. The Times Digital Archive. Adalwyd 31 Mawrth. 2016.
[8]