Beirut (Arabeg: بيروت ; Ffrangeg: Beyrouth) yw prifddinas Libanus er 1941. Lleolir Senedd Libanus a sedd llywodraeth y wlad yno. Mae'n gorwedd ar bentir, ar lan y Môr Canoldir a hi yw prif borthladd y wlad. Saif i'r gorllewin o Fynydd Libanus sy'n rhoi ffurf triongl i'r ddinas. Gan na fu cyfrifiad yno ers blynyddoedd mae'r amcangyfrifon o'i phoblogaeth yn amrywio o rhwng 1 a 2 filiwn o bobl.
Hanes
Roedd y ddinas ym meddiant y Tyrciaid am ganrifoedd nes i Ffrainc ei chipio ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Pan enillodd Libanus ei hannibyniaeth yn 1941 dewisiwyd Beirut yn brifddinas iddi.
Dioddefodd y ddinas ddifrod sylweddol yn ystod y rhyfel cartref (1973-1976) ac eto yn 1982 pan ymosododd byddin Israel arni er mwyn gorfodi'r PLO i ymadael.
Datblygiadau diweddar
Yn 2006 cafodd y ddinas ei tharo nifer o weithiau gan lu awyr Israel gan ladd rhai cannoedd o bobl a dinistrio rhannau o'r ddinas, yn arbennig maerdvefi y de ac ardal y maes awyr. Ym Mai 2008 ceisiodd Llywodraeth y wlad esgymuno aelodau o Hezbollah: penderfyniad y bu iddi'n ddiweddarach wrthdroi oherwydd y protestio a gwrthdystio cyhoeddus. Yn dilyn ymyrraeth gan Dywysog Qatar sefydlwyd Llywodraeth newydd gyda Phrifweinidog newydd yn ei harwain.