Nancy Ajram |
---|
|
Ganwyd | نانسي نبيل عجرم 16 Mai 1983 Ashrafieh |
---|
Man preswyl | Keserwan District |
---|
Label recordio | EMI, In2Musica |
---|
Dinasyddiaeth | Libanus |
---|
Alma mater | - Collège Saint Joseph – Antoura
|
---|
Galwedigaeth | actor, canwr, dyngarwr |
---|
Swydd | Llysgennad Ewyllus Da UNICEF |
---|
Cyflogwr | |
---|
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, folk-pop, cerddoriaeth bop Arabaidd |
---|
Taldra | 168 centimetr |
---|
Pwysau | 50 cilogram |
---|
Gwefan | http://www.nancyajram.com/ |
---|
Cantores boblogaidd o Libanus yw Nancy Nabil Ajram neu Nancy Agram (Arabeg: نانسي عجرم, ganed 16 Mai, 1983). Mae hi'n ferch i Nabil a Rimonda Ajram, o ardal Achrafieh yn Beirut.
Gyrfa gerddorol
Rhyddhaodd ei halbym cyntaf yn 1998. Cafodd Nancy ei gyfle cyntaf yn 12 oed ar y rhaglen Noujoum Al-Moustakbal, cystadleuaeth gerddorol ar deledu Libanus: perfformiodd un o ganeuon clasurol Umm Kulthum ac enillodd ei chategori. Torrodd drwodd i boblogrwydd yn 2003 gyda'r albym mawr Ya Salam a'r fideos cerddororiaeth a ddaethant allan ar yr un pryd.
Erbyn hyn mae Nancy Ajram (neu Nancy yn unig i'w ffans) yn un o'r enwau mwyaf yn y byd canu pop Arabeg ac yn enwog o Gasablanca i Gairo am ei chaneuon deniadol a'i phersonoliaeth fywiog sy'n arbennig o gofiadwy ar fideos cerddorol.
Yn gerddorol, mae ei chaneuon yn gyfuniad o ddylanwadau Arabaidd traddodiadol a sawl genre Gorllewinol, yn arbennig pop. Mae ei delwedd yn secsi, modern a herfeiddiol. I raddau mae hi a chantorion ifainc eraill o'i chenhedlaeth yn ddyledus iawn i waith cantorion poblogaidd cynharach fel Latifa sydd wedi gwneud llawer i newid delwedd a statws cyhoeddus merched yn y byd Arabaidd yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf.
Dolenni allanol