Gwleidydd yw Artur Mas i Gavarró (ganwyd 31 Ionawr1956 ym Marcelona, Catalwnia) oedd yn Arlywydd Catalunya rhwng 27 Rhagfyr 2010 a 9 Ionawr 2015. Mas oedd y 129fed Arlywydd y Generalitat; ef hefyd yw arweinydd y blaid ryddfrydol, genedlaetholgar 'y Blaid Ddemocrataidd dros Gydgyfeirio Barcelona' a chadeirydd y glymblaid Convergència i Unió.[1] Fe'i olynwyd fel Arlywydd gan Carles Puigdemont.[2]
Yn 2010, am y tro cyntaf, cyhoeddodd y byddai'n pleidleisio mewn unrhyw refferendwm dros annibyniaeth a daeth y thema hon o sofraniaeth yn flaenllaw iawn yn ei waith.[4][5]
Bywgraffiad
Ganwyd Mas ym Marcelona yn un o bedwar plentyn: dau fachgen a dwy ferch; roedd ei rieni o deuluoedd diwydiannol ariannog, gyda theulu ei fam yn y byd tecstiliau'n hanu o Sabadell a'i dad mewn diwydiannau metaleg o Poblenou. Astudiodd yn ysgol uwchradd Lycée Français de Barcelone ym Marcelona, gyda'r Ffrangeg yn gyfrwng y dysgu ac yn yr 'Ysgol Ewropeaidd' leol. Yn 1982, wedi cyfnod ym Mhrifysgol y brifddinas yn astudio economeg a busnes, priododd Helena Rakòsnik ac mae ganddynt dri o blant: Patricia, Albert ac Arthur.[6]