Apocryffa'r Hen Destament

Testunau Iddewig hynafol nas cynhwysir yn y Beibl Hebraeg, nac yn y Beibl ymhob enwad Cristnogol, yw Apocryffa'r Hen Destament. Bathwyd yr enw Apocryffa (Groeg: apokryphos, sef "cudd") gan Sant Sierôm yn y 5g i ddisgrifio'r llyfrau a gynhwysir yng nghyfieithiad Groeg yr Hen Destament, y Deg a Thrigain, ond nas cynhwysir yn y Beibl Hebraeg.

Gweithiau isganonaidd

Cyfeirir at y testunau a ystyrir yn apocryffaidd gan y Protestaniaid, ond nid gan y Pabyddion a'r Uniongredwyr, yn llyfrau isganonaidd,[1] ailganonaidd,[2] neu'n ddewteroganonaidd.

Trefn y Deg a Thrigain

Cynnyrch yr Iddewon Helenistaidd oedd cyfieithiad y Deg a Thrigain. Trosasant testunau Hebraeg, ac ambell ysgrif Aramaeg, i'r iaith Roeg Coine yn y 3g CC. Y llyfrau yn y cyfieithiad yma a ystyriwyd yn anghanonaidd gan Iddewon eraill yw Llyfr Jwdith, Doethineb Solomon, Llyfr Tobit, Llyfr Eclesiasticus (neu Ddoethineb Iesu fab Sirach), Llyfr Baruch, a llyfrau'r Macabeaid (1 a 2). Gweithiau hanesyddol neu ffug-hanesion yw Jwdith a Tobit, a llên ddoethineb yw Doethinebau Solomon a Sirach, yn debyg i Lyfr y Diarhebion, Llyfr Job, a Llyfr y Pregethwr. Ychwanegiad at Lyfr Jeremeia yw Baruch, o safbwynt ysgrifennydd y proffwyd hwnnw. Hanesion yn nhraddodiad llyfrau Samuel (1 a 2), y Brenhinoedd (1 a 2), a'r Croniclau (1 a 2) yw llyfrau'r Macabeaid. Cafodd y gweithiau hyn i gyd eu hystyried y tu allan i'r canon Hebraeg gan ysgolheigion Iddewig yn niwedd y 1g OC. Awgrymodd y hanesydd Heinrich Graetz i'r ysgolheigion hynny gytuno ar y canon yng "Nghyngor Jamnia",[3] ond gwrthodir y ddamcaniaeth hon gan hanesyddion diweddar.[4] Yr enw a roddir yn y Talmwd ar y gweithiau anghanonaidd hyn yw Sefarim Hizonim ("Llyfrau Allanol").

Canonau Cristnogol

Yn ogystal â'r llyfrau apocryffaidd a gynhwysir yng nghyfieithiad y Deg a Thrigain, mae sawl gwaith arall a ystyrir yn Apocryffa'r Hen Destament: llyfrau Esdras (1 a 2), yr Ychwanegiadau at Lyfr Esther (Esther 10:4-10), Cân y Tri Llanc (Daniel 3:24-90), Swsanna (Daniel 13), Bel a'r Ddraig (Daniel 14), a Gweddi Manase.

Er i Sant Sierôm fwrw amheuaeth ar ddilysrwydd ambell destun apocryffaidd, cafodd y mwyafrif o'r rheiny eu cynnwys yn ei gyfieithiad Lladin o'r Hen Destament, y Fwlgat. Yn 1546, dyfarnwyd holl gynnwys y Fwlgat yn ganonaidd gan Gyngor Trent, ac eithrio Trydydd a Phedwerydd Llyfrau'r Macabeaid, Gweddi Manase, Salm 151, a Llyfr Cyntaf ac Ail Lyfr Esdras. Yn eglwysi'r dwyrain, gwrthodwyd pob un o Apocryffa'r Hen Destament ar wahân i Tobit, Jwdith, Doethineb Solomon, ac Eclesiasticus.

Beiblau Cymraeg

Ym Meibl 1588, cyfieithiad yr Esgob William Morgan, cynhwysir 14 o lyfrau'r Apocryffa mewn adran ryngdestamentaidd, hynny yw wedi eu hargraffu rhwng yr Hen Destament a'r Testament Newydd. Y rhain yw 1 Esdras, 2 Esdras, Tobit, Judith, Rhan arall o Esther, Doethineb, Ecclesiasticus, Baruch ac Epistol Jeremi, Cân y Tri Llanc, Susanna, Bel a'r Ddraig, Gweddi Manasses, 1 Maccabeaid, a 2 Maccabeaid. Mae Apocryffa'r Beibl Cymraeg Newydd yn cynnwys yr holl destunau hyn ond yn cyfri Baruch ac Epistol Jeremi yn ddau lyfr ar wahân, gan ddilyn trefn Beibl Saesneg y Brenin Iago.

Ffugysgrifeniadau

Rhoddir yr enw ffugysgrifeniadau (Groeg: pseudepigraphos) ar y testunau nas cynhwysir yn y canon Beiblaidd gan unrhyw o'r prif enwadau, na chan yr Iddewon. Ymhlith y gweithiau hyn mae Llyfr y Jiwbilïau, Salmau Solomon, Dyrchafael Eseia, Dyrchafael Moses, Pedwerydd Llyfr y Macabeaid, Llyfr Enoc, Pedwerydd Llyfr Esra, Ystoria Adaf ac Efa y Wreic, Apocalyps Baruch, Llythyr Aristeas, a Thestamentau'r Deuddeg Patriarch. Priodolir y rhain i gyd i awduron a sonir amdanynt yng nghanon yr Hen Destament, ac maent yn dyddio o'r cyfnod rhyngdestamentaidd, a ni cheir ffynonellau Hebraeg nac Aramaeg gwreiddiol ohonynt. Cafwyd hyd i ragor o ffugysgrifeniadau, yn Hebraeg ac Aramaeg, yn Sgroliau'r Môr Marw.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1.  isganonaidd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 13 Medi 2018.
  2.  ailganonaidd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 13 Medi 2018.
  3. Heinrich Graetz, Kohelet oder der Salomonische Prediger: Ubersetzt und Kritisch Erläutert (Leipzig, 1871), tt. 147–173.
  4. Jack P. Lewis, "Jamnia Revisited" yn The Canon Debate, golygwyd gan L. M. McDonald a J. A. Sanders (Peabody, Massachusetts: Hendrickson, 2002), tt. 146–162.