Apocryffa'r Testament Newydd

Tudalen o Godecs Tchacos, brwynbapur Copteg o'r 4g sydd yn cynnwys yr Efengyl yn ôl Jwdas.

Ysgrifau gan Gristnogion yn oes yr Eglwys Fore sydd yn cynnwys straeon am fywyd Iesu Grist a'i ddysgeidiaeth, natur y Duw Cristnogol, neu ddysgeidiaeth a bywydau'r apostolion yw Apocryffa'r Testament Newydd. Cafodd rhai ohonynt eu hystyried yn ysgrythur gan Gristnogion cynnar, ond ers y 5g ni chynhwysir y gweithiau hyn yng nghanon y Testament Newydd, ac felly fe'i ystyrient yn apocryffa.

Rhwng yr 2g a'r 4g, ysgrifennwyd mwy na chant o lyfrau gan awduron Cristnogol a ystyrir yn Apocryffa. Nodai'r fath weithiau gan eu ffurf gyffredin, sydd yn debyg i genres y Testament Newydd (efengyl, actau, epistolau, ac apocalyps), a'r ffaith nad ydynt yn perthyn i ganon y Testament Newydd nac i ysgrifeniadau Tadau'r Eglwys. Ysgrifennwyd nifer ohonynt gan y Gnostigiaid, a chawsant eu rhannu ymhlith y rhai a ynydwyd yn unig. Cafodd eraill eu hysgrifennu ar gyfer yr eglwysi cyffredinol, ond na chawsant eu derbyn yn rhan o'r canon Beiblaidd.

Efengylau

Efengylau'r babandod

Efengylau Iddewig–Gristnogol

  • Efengyl yr Ebioniaid
  • Efengyl yr Hebreaid
  • Efengyl y Nasareaid

Efengylau anghanonaidd

  • Yr Efengyl yn ôl Marcion
  • Yr Efengyl yn ôl Mani
  • Yr Efengyl yn ôl Apelles
  • Yr Efengyl yn ôl Bardesanes
  • Yr Efengyl yn ôl Basilides

Efengyl dywediadau'r Iesu

  • Yr Efengyl yn ôl Tomos

Efengylau'r dioddefaint

  • Yr Efengyl yn ôl Pedr
  • Yr Efengyl yn ôl Nicodemus, neu Actau Peilat
  • Buchedd a Dioddefaint Crist (gan y ffug-Cyril)
  • Yr Efengyl yn ôl Bartholomeus
  • Ymholiadau Bartholomeus
  • Atgyfodiad Iesu Grist (a briodolir i Bartholomeus)

Efengylau cytûn

  • Diatessaron

Testunau Gnostigaidd

Ymgomion â'r Iesu

  • Apocryffon Iago
  • Llyfr Tomos
  • Ymgom y Gwaredwr
  • Yr Efengyl yn ôl Jwdas
  • Yr Efengyl yn ôl Mair Fadlen
  • Yr Efengyl yn ôl Philip
  • Efengyl Roeg yr Eifftiaid
  • Soffia Iesu Grist

Testunau cyffredinol ynglŷn â'r Iesu

  • Apocalyps Copteg Pawl
  • Efengyl y Gwir
  • Apocalyps Gnostigaidd Pedr
  • Llythyr Lentulus
  • Pistis Sophia
  • Ail Traethawd Seth Fawr

Testunau'r Sethiaid

  • Apocryffon Ioan
  • Efengyl Gopteg yr Eifftiaid
  • Trimorphic Protennoia

Defodlyfrau

  • Diagramau'r Offiaid
  • Llyfrau Jeu

Actau'r Apostolion

  • Actau Andreas
  • Actau Barnabas
  • Actau Ioan
  • Actau Mar Mari
  • Actau'r Merthyron
  • Actau Pawl
  • Actau Pawl a Thecla
  • Actau Pedr
  • Actau Pedr ac Andreas
  • Actau Pedr a Phawl
  • Actau Pedr a'r Deuddeg
  • Actau Philip
  • Actau Peilat
  • Actau Tomos
  • Actau Timotheus
  • Actau Xanthippe, Polyxena, a Rebeca

Llythyrau

  • Llythyr Barnabas
  • Llythyrau Clement
  • Llythyr y Corinthiaid at Bawl
  • Llythyr Ignatius at y Smyrnaeaid
  • Llythyr Ignatius at y Traliaid
  • Llythyr Polycarp at y Philipiaid
  • Llythyr Diognetus
  • Llythyr Pawl at y Laodiceaid
  • Llythyr Pawl at Seneca'r Ieuaf
  • Trydydd Llythyr Pawl at y Corinthiaid

Apocalypsau

  • Apocalyps Pawl
  • Apocalyps Pedr
  • Apocalyps y ffug-Methodius
  • Apocalyps Tomos neu Ddatguddiad Tomos
  • Apocalyps Steffan neu Ddatguddiad Steffan
  • Apocalyps Cyntaf Iago neu Ddatguddiad Cyntaf Iago
  • Ail Apocalyps Iago neu Ail Ddatguddiad Iago
  • Bugail Hermas

Tynged y Forwyn Fair

  • Dychweliad Mair
  • Huniad Mam Duw
  • Genedigaeth Mair

Testunau amrywiol

  • Cyfansoddiadau Apostolaidd
  • Llyfr Nepos
  • Canonau'r Apostolion
  • Ogof y Trysorau
  • Llên Glemennaidd
  • Didache (holwyddoreg)
  • Litwrgi Sant Iago
  • Edifeirwch Origen
  • Gweddi Pawl
  • Brawddegau Sextus
  • Physiologus
  • Llyfr y Wenynen

Dernynnau

  • Efengyl Anhysbys Berlin
  • Y Dernyn Naseanaidd
  • Dernyn Fayyum
  • Cudd-Efengyl Marc
  • Efengylau Oxyrhynchus
  • Dernyn Egerton

Gweithiau coll

  • Efengyl Efa
  • Efengyl y Pedair Teyrnas Nefol
  • Efengyl Matthias
  • Efengyl Perffeithder
  • Efengyl y Deg a Thrigain
  • Efengyl Thaddaeus
  • Efengyl y Deuddeg
  • Memoria Apostolorum

Gweler hefyd