Un o lyfrau'r Testament Newydd yw Llythyr Iago (talfyriad: IAGO). Dyma'r unig lyfr yn y Beibl a briodolir i Sant Iago (a ferthyrwyd yn 44 OC). Ond ceir sawl Iago arall yn yr eglwys fore ac ar sail nodweddion ieithyddol ymddengys fod Groeg y llythyr yn perthyn i gyfnod diweddarach na'r ganrif gyntaf OC. Cafodd ei dderbyn fel llyfr canonaidd yng Nghyngor eglwysig Carthago yn 397 OC,[1] ond yn ystod y diwygiad, gwrthwynebwyd ei statws canonaidd gan rai ddiwinyddion, yn enwedig Martin Luther.
Cyfeiriadau
- ↑ Y Geiriadur Beiblaidd (Wrecsam, 1926), cyf. 2, t.714