Anthem

Anthem
Enghraifft o:genre gerddorol, song type Edit this on Wikidata
Mathemyn Edit this on Wikidata
Yn cynnwysanthem Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Anthem yw darn cerddoriaeth i'w ganu gan gôr neu grŵp o bobl. Yn wreiddiol roedd yr anthem yn gerddoriaeth arbennig ar gyfer côr yng ngwasanaethau Eglwys Loegr, ond heb fod yn gerddoriaeth litwrgaidd fel y cyfryw; datblygodd o'r motet Lladin canoloesol. Yn raddol fe'i datgysylltywd o'r gwasanaaeth a chyfansoddwyd anthemau unigol, annibynnol, gan gyfansoddwyr cynnar fel Thomas Tallis (c. 1505 - 1585) a William Byrd (c. 1543 - 1623).

Yn y 19g a'r 20g cyfansoddwyd anthemau cenedlaethol. Cyfeirir at sawl math o ganu cynulleidfaol fel 'anthem' erbyn heddiw, gan gynnwys caneuon cefnogwyr chwaraeon. Yn ogystal mae rhai mathau o draciau roc yn cael eu disgrifio fel 'anthemau'.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.