Cyfansoddwr Seisnig yng nghyfnod y Dadeni oedd William Byrd (c.1539/40 neu 1543 – 4 Gorffennaf 1623). Defnyddiodd llawer o ffurfiau cerddorol a ddefnyddir yn Lloegr yn y cyfnod hwnnw, yn gynnwys poliffoni eglwysig a seciwlar, cerddoriaeth i offerynnau allweddell (yn nodedig y firdsinal), a cherddoriaeth gonsort. Cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer nid yn unig yr Eglwys Anglicanaidd ond hefyd yr Eglwys Gatholig Rufeinig.