AwduresAmericanaidd oedd Anne Sexton (9 Tachwedd1928 - 4 Hydref1974) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, ac awdur plant. Mae ei cherddi'n hynod bersonol a chyffrous gan fanylu ar ei brwydr hir gydag iselder, tueddiadau hunanladdol a manylion personol eraill am ei bywyd preifat, gan gynnwys perthynas â'i gŵr a'i phlant. Datgelodd yn ddiweddarach ei bod wedi dioddef ymosodiad corfforol a rhywiol. Enillodd Wobr Pulitzer am farddoniaeth yn 1967 am ei llyfr Live or Die.[1][2][3][4]
Roedd ganddi ddwy chwaer hŷn, Jane Elizabeth (Harvey) Jealous (1923-1983) a Blanche Dingley (Harvey) Taylor (1925-2011). Treuliodd y rhan fwyaf o'i phlentyndod yn Boston. Ym 1945, cofrestrodd yn ysgol breswyl Rogers Hall, Lowell, Massachusetts, gan dreulio blwyddyn yn Ysgol Garland yn ddiweddarach. Am gyfnod, modelodd ar gyfer "Asiantaeth Boston's Hart". Ar 16 Awst 1948, priododd Alfred Muller Sexton II ac arhosodd y ddau gyda'i gilydd tan 1973. Ganwyd ei phlentyn cyntaf, Linda Gray Sexton, ym 1953 a ganwyd ei hail blentyn, Joyce Ladd Sexton, ddwy flynedd yn ddiweddarach.[5][6]
Y bardd
Dioddefodd Sexton o anhwylder deubegwn difrifol am lawer o'i bywyd; cafwyd y cyfnod manig cyntaf ym 1954. Yn dilyn ei hail ysgytwad, yn 1955, cyfarfu â Dr. Martin Orne, a ddaeth yn therapydd hirdymor iddi yn Ysbyty Glenside. Ef a'i hanogodd i ysgrifennu barddoniaeth.[6][7]
Arweiniwyd y gweithdy barddoniaeth cyntaf a fynychwyd ganddi gan John Holmes. Cafodd ei chanmol yn gynnar am ei barddoniaeth; derbyniodd feirniadaeth canmoladwy iawn gan The New Yorker, Harper's Magazine a'r Saturday Review. Astudiodd Sexton wedyn gyda Robert Lowell ym Mhrifysgol Boston, ochr yn ochr â beirdd mwya'r cyfnod - Sylvia Plath a George Starbuck.
O fewn 12 mlynedd o ysgrifennu ei soned gyntaf, roedd ymhlith y beirdd mwyaf anrhydeddus yn yr Unol Daleithiau i enillydd Gwobr Pulitzer, a daeth yn gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth a'r aelod benywaidd cyntaf o siapter Harvard o Phi Beta Kappa.
Aelodaeth
Bu'n aelod o Gymdeithas Phi Beta Kappa am rai blynyddoedd.
[8]
Anrhydeddau
Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1969), Gwobr Pulitzer am Farddoniaeth (1967), Shelley Memorial Award (1967)[9][10] .
Cyfeiriadau
↑Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. LIBRIS. dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2008. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018.