Byw yng ngwledydd Prydain? Gallwch ffonio'r Samariaid am ddim ar: 116 123 unrhyw dro, os ydych yn teimlo'n isel. Byw yn yr Ariannin? Ffoniwch 107 neu +5402234930430.
Mae rhannu eich pryder yn help ac yn beth da. Awduron lleyg sy'n cyfrannu at Wicipedia, ond mae cysylltu gyda phobl broffesiynol, a all eich helpu, yn llawer gwell!
Y weithred o unigolyn yn terfynu bywyd ei hun yn fwriadol yw hunanladdiad. Yn aml, cyflawnir hunanladdiad am fod person yn teimlo heb obaith, neu oherwydd anhwylder meddyliol a allai gynnwys iselder, anhwylder deubegwn, sgitsoffrenia, alcoholiaeth neu gam-ddefnydd o gyffuriau.[1] Mae anhawsterau ariannol, problemau gyda pherthynas rhyngbersonol a sefyllfaoedd annymunol eraill yn medru chwarae rhan hefyd.[2]
Mae dros filiwn o bobl yn farw drwy hunanladdiad bob blwyddyn. Dyma yw'r prif achos o farwolaeth ymysg pobl yn eu harddegau ac oedolion o dan 35 oed. Mae cyfraddau hunanladdiad yn uwch ymysg dynion na menywod.[3][4] Amcangyfrifir fod rhwng 10 ac 20 miliwn o bobl yn ceisio cyflawni hunanladdiad bob blwyddyn yn aflwyddiannus.[5]