Mesuriad o marwolaethau poblogaeth yw Cyfradd marw . Mae'n cael ei fesur gan y nifer o bobl sy'n marw bob 1000 o bobl pob blwyddyn. Mae 9.6 o pobl yn marw pob 1000 o bobl ar cyfartaledd y flwyddyn.
Ystadegau
Lefelau rhyngwladol o farwolaethau babanod, wedi'u cofnodi fel nifer y marwolaethau allan o bob mil sy'n cael eu geni.
Y gwledydd oedd â'r marwolaethau babanod uchaf yn 2002 oedd:
Angola 192.50
Affganistan 165.96
Sierra Leone 145.24
Mosambic 137.08
Liberia 130.51
Niger 122.66
Somalia 118.52
Mali 117.99
Tajicistan 112.10
Gini Bisaw 108.72
Yn ôl Cyfundrefn Iechyd y Byd ('World Health Organization'), y 10 achos pennaf dros farwolaethau yn 2002 oedd:
12.6% afiechydon yn ymwneud â'r galon
9.7% afiechydon 'Cerebrovascular'
6.8% afiechydon anadlu y rhan isaf ('Lower respiratory infections')
4.9% HIV/AIDS
4.8% afiechydon pwlmonari dwys ('Chronic obstructive pulmonary disease')
3.2% y bib
2.7% y diciâu
2.2% malaria
2.2% cancr yr ysgyfaint a'i debyg
2.1% damweiniau ffordd
Mae achos marwolaethau yn amrywio'n fawr o wlad i wlad - yn enwedig rhwng y gwledydd tlawd a'r gwledydd cyfoethog.