Gwobr Laurence Olivier, CBE, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Marchog Faglor, Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain, Critics' Circle Award for Distinguished Service to the Arts
Mae Syr Alan Ayckbourn CBE FRSA (ganwyd 12 Ebrill1939) yn ddramodydd a chyfarwyddwr Prydeinig toreithiog. Bu'n ysgrifennu a chynhyrchu dramâu ers y 1950au, ac erbyn 2024, roedd y nifer o gynyrchiadau o ddramâu hir a gyflawnodd wedi cyrraedd cyfanswm o 90. Llwyfannwyd y gwaith yn Llundain a Scarborough, lle bu'n gyfarwyddwr artistig Theatr Stephen Joseph rhwng 1972 a 2009. Ers hynny, mae dros 40 o'i ddramâu wedi’u cynhyrchu yn y West End, yn y National Theatre neu gan y Royal Shakespeare Company. Ei sioe boblogaidd gyntaf oedd Relatively Speaking a lwyfannwyd yn Theatr y Duke of York ym 1967.
Mae llwyddiannau eraill yn cynnwys Absurd Person Singular (1975), trioleg The Norman Conquests (1973), Bedroom Farce (1975), Just Between Ourselves (1976), A Chorus of Disapproval (1984), Woman in Mind (1985), A Small Family Business (1987), Man of the Moment (1988), House & Garden (1999) a Private Fears in Public Places (2004). Mae ei ddramâu wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys saith Gwobr Evening Standard Llundain. Maent wedi eu cyfieithu i dros 35 o ieithoedd [gan gynnwys y Gymraeg] ac yn cael eu perfformio ar lwyfan a theledu ledled y byd. Mae deg o'i ddramâu wedi'u llwyfannu ar Broadway, gan ennill un Gwobr Tony a dau enwebiad.
Bywyd
Plentyndod
Ganed Ayckbourn yn Hampstead, Llundain.[1] Roedd ei fam, Irene Worley ("Lolly") (1906 - 1998), yn awdur straeon byrion a gyhoeddodd dan yr enw "Mary James".[2] Roedd ei dad, Horace Ayckbourn (1904–1965), yn feiolinydd cerddorfaol a prif feiolinydd y London Symphony Orchestra.[3] Ni phriododd ei rieni, a gwahanodd y ddau yn fuan ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Ysgarodd ei fam ei gŵr cyntaf i ail briodi ym 1948.[1]
Ysgrifennodd Ayckbourn ei ddrama gyntaf yn Wisborough Lodge (ysgol baratoi ym mhentref Wisborough Green) pan oedd tua 10 oed.[4] Tra'n preswylio yn yr ysgol, ysgrifennodd ei fam ato i ddweud am ei bwriad o briodi'r rheolwr banc, Cecil Pye. Roedd ei deulu newydd yn cynnwys ei fam, ei lystad a Christopher, mab ei lysdad trwy briodas gynharach. [5]
Mynychodd Ayckbourn golegau Haileybury ac Imperial Service, ym mhentref Hertford Heath, a thra yno, bu ar daith yn Ewrop ac America gyda chwmni Shakespeare yr ysgol.[6]
Bywyd oedolyn
Wedi gadael yr ysgol yn 17 oed, bu'n gweithio dros dro mewn gwahanol swyddi, cyn derbyn swydd yn Theatr Llyfrgell Scarborough, lle cafodd ei gyflwyno i'r cyfarwyddwr artistig, Stephen Joseph.[7] Dywedir i Joseff ddod yn fentor ac yn ffigwr tadol i Ayckbourn hyd ei farwolaeth annhymig ym 1967,[8] ac mae Ayckbourn wedi'i ganmol yn gyson.[9]
Wedi gwasanaethu yn Y Fyddin am gyfnod, ymgartrefodd yn Scarborough, gan brynu Longwestgate House cyn gartref ei fentor, Stephen Joseph.[10]
Ym 1957, priododd Ayckbourn â Christine Roland, aelod arall o gwmni Theatr y Llyfrgell.[11][12] Ysgrifennwyd ei ddwy ddrama gyntaf ar y cyd â hi, dan y ffugenw "Roland Allen".[13] Ganwyd iddynt ddau fab, Steven a Philip.[14] Yn anffodus, chwalwyd y briodas ym 1971. Tua'r un amser, roedd yn rhannu cartref gyda Heather Stoney,[15] actores y cyfarfu â hi gyntaf ddeng mlynedd ynghynt.[16] Fel ei fam, ni cheisiodd ysgariad ar unwaith, a bu'n rhaid aros tan 1997 am ysgariad ffurfiol a phriodas Ayckbourn â Stoney.[17][18]
Ym mis Chwefror 2006, dioddefodd strôc yn Scarborough, a dywedodd: "Rwy'n gobeithio bod yn ôl ar fy nhraed, neu falla ddyliwn i ddeud fy nghoes chwith, cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser rydw i mewn dwylo rhagorol, felly hefyd Theatr Stephen Joseph.” [19] Y flwyddyn ganlynol, cyhoeddodd Ayckbourn y byddai'n ymddiswyddo fel cyfarwyddwr artistig Theatr Stephen Joseph. [20] Mae'n parhau, fodd bynnag, i ysgrifennu a chyfarwyddo ei waith ei hun yn y theatr.
Dylanwad ar ddramâu
Ers i ddramâu Ayckbourn gael eu llwyfannu'n rheolaidd yn y West End, mae adolygwyr wedi holi os oes elfen hunangofiannol yn ei waith.[21] Ni chafwyd ateb clir i'r cwestiwn hwn. Dim ond un cofiant sydd, a ysgrifennwyd gan Paul Allen, sy'n ymdrin yn bennaf â'i yrfa yn y theatr. [22] Mae Ayckbourn wedi cyfaddef yn aml ei fod yn gweld agweddau ohono'i hun ym mhob un o'i gymeriadau. Yn Bedroom Farce (1975), er enghraifft, cyfaddefodd fod rhannau ohono yn y pedwar cymeriad gwrywaidd. [23] Awgrymwyd, mai ei fam yw'r dylanwad a ddefnyddir amlaf, ar wahan i'w brofiadau ei hun. Yn enwedig fel Susan yn Woman in Mind[24] (1985).
Mae'n llai eglur i ba raddau mae digwyddiadau ym mywyd Ayckbourn wedi dylanwadu ar ei ysgrifennu,. Mae’n wir fod thema priodasau mewn anhawster yn amlwg iawn drwy gydol ei ddramâu yn y saithdegau cynnar, tua’r adeg yr oedd ei briodas ei hun yn dirwyn i ben. Fodd bynnag, erbyn hynny, roedd hefyd wedi bod yn dyst i fethiant perthynas ei rieni a rhai o'i ffrindiau.[21]
Gyrfa
Gyrfa gynnar ac actio
Dechreuodd gyrfa theatrig Ayckbourn yn syth ar ôl gadael yr ysgol, pan gyflwynwyd ef i Syr Donald Wolfit.[25] Ymunodd Ayckbourn â Wolfit ar daith i Ŵyl Ymylol Caeredin fel rheolwr llwyfan cynorthwyol dros dro (rôl oedd yn cynnwys actio a rheoli llwyfan) am dair wythnos.[26] Ei brofiadau cyntaf ar y llwyfan proffesiynol oedd yn The Strong are Lonely gan Fritz Hochwälder.[27] Y flwyddyn ganlynol, ymddangosodd Ayckbourn mewn chwe drama arall yn Theatr Connaught, Worthing[28] a theatr Thorndike, Leatherhead.[29]
Ym 1957, cyflogwyd Ayckbourn gan y cyfarwyddwr Stephen Joseph yn Theatr y Llyfrgell, Scarborough, rhagflaenydd y Theatr Stephen Joseph newydd.[7] Arweiniodd y gwaith yma at gomisiynau sgriptiau proffesiynol cyntaf Ayckbourn, ym 1958. Ysgrifennodd The Square Cat, dan y ffugenw Roland Allen a berfformiwyd gyntaf ym 1959.[30]
Ym 1962, symudodd Ayckbourn i Stoke-on-Trent i helpu sefydlu Theatr Victoria (y New Vic bellach). [31]
Ysgrifennu
Roedd drama gyntaf Ayckbourn, The Square Cat, yn ddigon poblogaidd i sicrhau comisiynau pellach. Llwyddiant arall oedd Mr. Whatnot ym 1963. Hon oedd y ddrama gyntaf i Ayckbourn fod yn ddigon hapus â hi i ganiatáu perfformiadau ohoni hyd heddiw. Ym 1965, cynhyrchwyd Meet my Father, gafodd ei hail enwi yn Relatively Speaking. Bu’r ddrama’n llwyddiant ysgubol, yn Scarborough ac yn y West End. Sicrhaodd ei ddrama ganlynol, How the Other Half Loves, ei lwyddiant dihangol fel dramodydd. [32][33]
Daeth llwyddiant masnachol Ayckbourn i'w anterth gyda dramâu fel Absurd Person Singular (1975), trioleg The Norman Conquests (1973), Bedroom Farce (1975) a Just Between Ourselves (1976). Roedd y dramâu hyn yn canolbwyntio'n helaeth ar briodasau'r dosbarth canol ym Mhrydain.[34]
Gyda portffolio o dros 70 o ddramâu, a mwy na deugain ohonynt wedi'u llwyfannu yn y National Theatre neu yn y West End, mae Alan Ayckbourn yn un o ddramodwyr mwyaf llwyddiannus Lloegr, sy'n dal ar dir y byw. Er gwaethaf ei lwyddiant, ei anrhydeddau a'i wobrau (sy'n cynnwys gwobr Laurence Olivier), mae Alan Ayckbourn yn parhau i fod yn ffigwr gymharol ddi-wybod, sy'n ymroddedig i theatr ranbarthol. [35]
Derbyniodd Ayckbourn y CBE ym 1987 [36] a cafodd ei urddo'n farchog yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 1997. [37]
Yn 2019, cyhoeddodd Ayckbourn ei nofel gyntaf, The Divide.
Cyfarwyddo
Er mai fel dramodydd yr adnabyddir Ayckbourn yn bennaf, dywedir mai 10% o'i amser sy'n cael ei roi i ysgrifennu gyda'r gweddil yn cyfarwyddo. [38]
Dioddefodd Ayckbourn strôc ym mis Chwefror 2006 a dychwelodd i'r gwaith ym mis Medi; daeth première ei 70fed drama If I Were You yn Theatr Stephen Joseph y mis canlynol. [39]
Cyhoeddodd ym mis Mehefin 2007 y byddai'n ymddeol fel cyfarwyddwr artistig Theatr Stephen Joseph ar ôl tymor 2008. [20] Cymerodd ei olynydd, Chris Monks, yr awenau ar ddechrau tymor 2009–2010 [40] ond arhosodd Ayckbourn i gyfarwyddo premières ac adfywiadau o'i waith yn y theatr, gan ddechrau gyda How the Other Half Loves ym mis Mehefin 2009. [41]
Anrhydeddau a gwobrau
1973: Gwobr Evening Standard, Comedi Orau, am Absurd Person Singular
1974: Gwobr Evening Standard, y Ddrama Orau, am The Norman Conquests
1977: Gwobr Evening Standard, y Ddrama Orau, am Just Between Ourselves
1981: Gradd Doethur er Anrhydedd mewn Llythyrau (Litt.D.) o Brifysgol Hull
1985: Gwobr Evening Standard, Comedi Orau, am A Chorus of Disapproval
1985: Gwobr Laurence Olivier, Comedi Orau, am A Chorus of Disapproval
Bydd wrth ein bwrdd (?) - cyfieithiad John Gwilym Jones o Table Manners.
Un o'r Teulu (1990) - cyfieithiad John Ogwen o Relatively Speaking.
Dramâu hir
Rhif y ddrama
Teitl
Cyfres
1
The Square Cat
2
Love After All
3
Dad's Tales
4
Standing Room Only
5
Christmas V Mastermind
6
Mr Whatnot
7
Relatively Speaking
8
The Sparrow
9
How the Other Half Loves
10
Family Circles
11
Time And Time Again
12
Absurd Person Singular
13
The Norman Conquests
Table Manners
14
Living Together
15
Round and Round the Garden
16
Absent Friends
17
Confusions
18
Jeeves
19
Bedroom Farce
20
Just Between Ourselves
21
Ten Times Table
22
Joking Apart
23
Sisterly Feelings
24
Taking Steps
25
Suburban Strains
26
Season's Greetings
27
Way Upstream
28
Making Tracks
29
Intimate Exchanges
Affairs in a Tent
Events on a Hotel Terrace
A Garden Fete
A Pageant
A Cricket Match
A Game of Golf
A One Man Protest
Love in the Mist
30
It Could Be Any One Of Us
31
A Chorus of Disapproval
32
Woman in Mind
33
A Small Family Business
34
Henceforward...
35
Man of the Moment
36
Mr A's Amazing Maze Plays
37
The Revengers' Comedies
38
Invisible Friends
39
Body Language
40
This Is Where We Came In
41
Callisto 5
42
Wildest Dreams
43
My Very Own Story
44
Time of My Life
45
Dreams From A Summer House
46
Communicating Doors
47
Haunting Julia
48
The Musical Jigsaw Play
49
A Word From Our Sponsor
(18)
By Jeeves
50
The Champion Of Paribanou
51
Things We Do For Love
52
Comic Potential
53
The Boy Who Fell into a Book
54
House and Garden
House
55
Garden
(41)
Callisto#7
56
Virtual Reality
57
Whenever
58
Damsels in Distress
GamePlan
59
FlatSpin
60
RolePlay
61
Snake in the Grass
62
The Jollies
63
Sugar Daddies
64
Orvin – Champion of Champions
65
My Sister Sadie
66
Drowning on Dry Land
67
Private Fears in Public Places
68
Miss Yesterday
69
Improbable Fiction
70
If I Were You
71
Things That Go Bump
Life and Beth
72
Awaking Beauty
73
My Wonderful Day
74
Life of Riley
75
Neighbourhood Watch
76
Surprises
77
Arrivals & Departures
78
Roundelay
79
Hero's Welcome
80
Consuming Passions
81
A Brief History of Women
82
Better Off Dead
83
Birthdays Past, Birthdays Present
84
Anno Domino
85
The Girl Next Door
86
All Lies
87
Family Album
88
Welcome to the Family
89
Constant Companions
Dramâu un act
Mae Alan Ayckbourn wedi ysgrifennu wyth drama un act. Ysgrifennwyd pump ohonynt (Mother Figure, Drinking Companion, Between Mouthfuls, Gosforth's Fete a Widows Might ) ar gyfer Confusions, a berfformiwyd gyntaf yn 1974 .
Y tair drama un act arall yw:
Countdown, a berfformiwyd gyntaf yn 1962, y mwyaf adnabyddus fel rhan o Mixed Doubles, set o ddramâu un act byr a monologau a gyfrannwyd gan naw awdur gwahanol.
Ernie's Incredible Illucinations, a ysgrifennwyd yn 1969 ar gyfer casgliad o ddramâu byrion ac a fwriadwyd i'w perfformio gan ysgolion. [44]
A Cut in the Rates, a berfformiwyd yn Theatr Stephen Joseph yn 1984, a'i ffilmio ar gyfer rhaglen ddogfen gan y BBC.
Llyfrau
Ayckbourn, Alan (2002). The Crafty Art of Playmaking. UK: Faber and Faber. ISBN0-571-21509-2.