Ardal an-fetropolitan a bwrdeistref yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Hwmbr, Lloegr, yw Bwrdeistref Scarborough (Saesneg: Borough of Scarborough).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 816.5 km², gyda 108,757 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae’n ffinio ar Fwrdeistref Redcar a Cleveland i’r gogledd, Ardal Hambleton i’r gorllewin, Ardal Ryedale i’r de-orllewin, a’r Riding Dwyreiniol Swydd Efrog i’r de. Mae ei harfordir dwyreiniol yn gorwedd ar Fôr y Gogledd.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Mae pencadlys cyngor yr ardal yn nhref Scarborough, ond mae’r ardal hefyd yn cynnwys trefi Whitby a Filey, yn ogystal â rhan fawr o arfordir Môr y Gogledd, y rhan isaf o Fro Pickering, a’r dyffryn Eskdale ym Mharc Cenedlaethol Gweunydd Gogledd Swydd Efrog.
Cyfeiriadau