Cyfnodolyn astudiaethau Celtaidd yw'r Zeitschrift für celtische Philologie (Almaeneg, yn golygu Cylchgrawn ieitheg Geltaidd), yr hynaf o'i fath yn y byd. Almaeneg a Saesneg yw prif gyfryngau'r erthyglau; yn achlysurol ceir erthyglau mewn Ffrangeg, Sbaeneg ac Eidaleg yn ogystal.
Sefydlwyd y Zeitschrift für celtische Philologie yn yr Almaen gan Kuno Meyer a Ludwig Christian Stern yn 1896. Am gyfnod fe'i ystyrid y pwysicaf o'r cyfnodolion astudiaethau Celtaidd ac mae ganddo le blaenllaw o hyd, yn enwedig ym maes ieitheg Geltaidd. O'r cychwyn mae pwyslais y cylchgrawn ar yr Hen Wyddeleg a'i llenyddiaeth a Chelteg y Cyfandir, ond ceir erthyglau ar yr iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth a phynciau eraill hefyd. Mae nifer o ysgolheigion enwog wedi cyfrannu dros y blynyddoedd yn cynnwys rhai Cymry: cyhoeddwyd erthygl arloesol ar y gynghanedd gan John Morris-Jones ynddo yn 1913.
Rhedodd y gyfres gyntaf o 1896 hyd 1943. Dechreuodd yr ail gyfres yn 1954. Fe'i cyhoeddir erbyn heddiw gan Brifysgol Bonn.
Golygyddion
Mae'r rhestr o ysgolheigion a fu'n olygwyr y cylchgrawn yn cynnwys:
Y golygyddion presennol[1] (2010) yw
Cyfeiriadau
Dolenni allanol