Cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid sy'n cyhoeddi ysgolheictod sy'n berthnasol i ddisgyblaeth academaidd benodol yw cyfnodolyn academaidd. Maent yn ymddwyn fel fforymau ar gyfer cyflwyno ac archwilio ymchwil newydd, ac i ddadansoddi a beirniadu ymchwil sy'n bodoli eisoes. Gan amlaf maent yn cynnwys erthyglau sy'n cyflwyno ymchwil gwreiddiol, erthyglau adolygiadol, ac adolygiadau o lyfrau.
Gweler hefyd