Prif Ysgrifennydd Gwladol Ei Mawrhydi dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd neu, yn anffurfiol, Ysgrifennydd Brexit,[1] yw'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd, y cyfeirir ato'n anffurfiol fel "Brexit". Cyfrifoldeb yr ysgrifennydd yw goruchwylio'r trafodaethau am dynnu allan o'r UE yn dilyn refferendwm ar 23 Mehefin2016, lle pleidleisiodd mwyafrif o'r rhai a bleidleisiodd o blaid gadael yr Undeb.[2][3] Mae deiliad y swydd yn aelod o'r Cabinet.
Y deiliad cyntaf oedd David Davis AS, Ewrosceptig ers amser maith a fu'n chware rhan flaenllaw yn yr ymgyrchu o blaid ymadawiad y DU o'r UE.[5] Mae Davis yn gyn- gadeirydd y Blaid Geidwadol a wasanaethodd yn llywodraeth John Major fel Gweinidog Gwladol dros Ewrop (1994-97) ac yng Nghabinet Cysgodol David Cameron fel yr Ysgrifennydd Cartref Cysgodol .[6]
Ymddiswyddodd Davis ar 8 Gorffennaf 2018 ychydig cyn hanner nos. Penodwyd Dominic Raab ar 9 Gorffennaf fel ei olynydd. Ymddiswyddodd Rabb ar 15 Tachwedd 2018.[7] Penodwyd Stephen Barclay, a fu gynt y Gweinidog Gwladol dros Iechyd, fel olynydd Raab ar 16 Tachwedd 2018.[8]
Rhestr o Ysgrifenyddion Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd