Canolfan y Gymraeg ac amgueddfa hanes lleol yng Nghaerdydd yw Yr Hen Lyfrgell. Fe'i lleolir mewn adeilad rhestredig Gradd II* yn yr Aes yng nghanol y ddinas, sydd wedi bod â sawl swyddogaeth yn ystod ei hanes. Ystyrir yr adeilad yn waith pwysicaf y pensaer Fictoraidd lleol Edwin Seward[1] ac yn un o adeiladau cyhoeddus gorau'r cyfnod yn y brifddinas.[2]
Adeiladwyd y rhan gyntaf, gyda'r mynedfeydd ar Stryd y Drindod a Stryd Working, fel llyfrgell, amgueddfa, ysgol gelf ac ysgol y gwyddorau, ym 1880–82. Yr adeiladwyr oedd E. Turner a'i Feibion, a fu'n gyfrifol am godi'r mwyafrif helaeth o adeiladau cyhoeddus yng Nghaerdydd dros yr hanner canrif nesaf.[2] Adeiladwyd estyniad, sy'n cynnwys y ffasâd clasurol ar yr Aes, rhwng 1894 a 1896 ac fe'i agorwyd yn swyddogol gan Dywysog Cymru (Edward VII yn hwyrach) ar 27 Mehefin 1896.[2] Symudodd ysgolion y celfyddydau a'r gwyddorau i Goleg y Brifysgol ym 1890 a'r casgliadau celf i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1923.[2] Parhaodd yr adeilad i wasanaethu'r ddinas fel llyfrgell canolog hyd 1988.
Agorwyd canolfan Gymraeg yn yr Hen Lyfrgell ym mis Chwefror 2016. Mae bellach yn bencadlys i saith mudiad gwahanol sy'n hybu a chefnogi'r Gymraeg.[3]
Cyfeiriadau
↑Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin.CS1 maint: ref=harv (link), t. 211