Casgliad o ynysoedd creigiog yw Ynysoedd y Moelrhoniaid (Saesneg: The Skerries) (cyfeiriad gridSH268948). Mae'r ynysoedd yn mesur tua 17 hectar (42 erw) ac yn gorwedd tua 3 km (1.5 milltir) oddi ar Trwyn y Gadair yng ngogledd orllewin Ynys Môn. Mae'r ynysoedd yn berchen i Trinity House ers 1841[1] ac mae goleudy wedi sefyll ar yr ynysoedd ers 1717[1].
Mae'r ynysoedd yn nythfa bwysig i Fôr-wenoliaid y Gogledd, gyda bron i 4,000 o barau yn nythu yno yn 2017.
Daw tarddiad yr enw "Moelrhoniaid" o'r morloi sydd i'w gweld o amgylch yr ynysoedd[2] tra bod yr enw Saesneg "Skerries" yn dod o'r gair Llychlyneg "sker" sy'n golygu ynys greigiog fechan[3].
Ceir y cofnod cyntaf am yr ynysoedd yn 1535 a nodir eu bod yn eiddo i Abaty Aberconwy cyn iddo gael ei ddiddymu yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno. Dywedir fod esgobion Conwy yn arfer defnyddio'r ynys fel encil ac i bysgota. Nid oes olion archeolegol ar yr ynys o'r cyfnod hwn, ond ceir map cynnar a grëwyd gan William Williams yn 1734. Ymddengys bod tair rhan o'r Moelrhoniaid wedi cael enwau sy'n cyfeirio at amrywiol 'fannau gorffwys' yn amser yr esgobion. Enwyd bwlch deheuol yr ynys ganolog yn 'Gorffwyffa-bach' a'r ynysoedd canolog lle saif y goleudy a bwthyn ceidwad y bwi yn 'Pen Gorffwyffa-fawr'; enwir y rhan ogleddol fel 'Gor-fedd Llywelyn.
Mae wardeniaid yr RSPB yn edrych ar ôl y nythfa rhwng mis Mai ac Awst tra bod yr adar yn nythu[5].
Goleudy Ynysoedd y Moelrhoniaid
Mae goleudy wedi sefyll ar yr ynysoedd ers 1717 wedi i William Trench sicrhau patent gan y Frenhines Anne i adeiladu goleudy am rent o £5 y flwyddyn. Bwriad Trench oedd i godi toll o geiniog ar pob llong a dwy geiniog ar pob tunnell o nwyddau oedd yn pasio'r Moelrhoniaid. Methodd Trench a sicrhau fod y llongau yn talu'r tollau a phan fu farw yn 1729 roedd wedi colli ei ffortiwn[1].
Erbyn i Trinity House brynu'r ynysoedd am £444,984 ym 1841 roedd y goleudy wedi newid o fod yn llosgi glo i fod yn llosgi olew. Ym 1927 newidiwyd y goleudy i fod yn oleudy trydan ac ym 1987 gadawodd y ceidwad llawn amser olaf wrth i'r goleudy ddod yn gwbwl awtomatig[7].