Ymgyrch gan Luoedd Amddiffyn Israel yn Llain Gaza yw Ymgyrch Colofn o Niwl (neu Ymgyrch Colofn o Gwmwl; Saesneg: Operation Pillar of Defense; Hebraeg: עַמּוּד עָנָן, Amúd Anán; llythr. "Colofn o Gwmwl")[1] a lansiwyd ar 14 Tachwedd 2012 pan lofruddiwyd Ahmed Jabari, pennaeth milwrol Hamas yn Gaza, gan fyddin Israel.[2][3][4] Diben yr ymgyrch, yn ôl Llywodraeth Israel, oedd atal ymosodiadau rocedi gan Hamas rhag cael eu saethu o'r Llain Gaza[5] a chreu anhrefn gweinyddol i fudiadau milwriaethol y Palesteiniaid.[6]
Yn ôl Llywodraeth Israel, cychwynodd eu hymgyrch am dri rheswm:[7]
honir fod grwpiau Palesteinaidd wedi lansio dros 100 o rocedi tuag at Israel dros gyfnod o 24 awr,[8]
ymosodiad ar jeep byddin Israel oddi fewn i Israel ei hun[9]
a ffrwydriad o dan dir Israel, yn agos at grwp o filwyr Israelaidd.[10]
Taniodd byddin Israel, yr IDF, dros 1,550 o daflegrau a rocedi o'r awyr, allan o danciau ac o longau'r llynges tuag at y Llain Gaza.[11] Ffrwydrwyd cyfarpar tanio rocedi Hamas, gan daro canolfannau cadw arfau a chanolfannau milwrol; ffrwydrodd y rocedi Israelaidd hyn, hefyd, adeiladau sifilaidd gan gynnwys adeiladau'r Llywodraeth, tai cyffredin a blociau o fflatiau.[12][13][14]
Lladdwyd rhwng 158 a 177 o Balisteiniaid gyda dros eu hanner yn sifiliaid.[15] Amcangyfrifant hefyd fod 1,200 - 1,300 o Balisteiniaid wedi'u niweidio.
Ar 22 Tachwedd, drwy gymorth yr Aifft cafwyd cadoediad, gydag amodau e.e. codi'r gwaharddiadau i'r Palesteiniaid fewnforio nwyddau i'r Llain Gaza.
Cefndir
Disgrifir y Llain Gaza gan rai fel "carchar rhyfel mwyaf y byd" am fod Israel yn cadw'r bobl dan warchae economaidd a milwrol gyda "ffens ddiogelwch" anferth yn gwahanu'r diriogaeth ac Israel, llynges Israel yn rhwystro mynediad o'r môr, a dim cysylltiad trwy'r awyr (dinistriwyd Maes Awyr Yasser Arafat ganddynt). I'r de, ar y ffina â'r Aifft, dim ond un croesfa sydd ar gael, ger Rafah, ac mae mynd i mewn ac allan yn anodd yno hefyd.
Mae gwarchae Israel o'r llain yn golygu mai ychydig iawn o fynd a dod sy'n digwydd o'r ardal. Mae Israel yn caniatau rhywfaint o gymorth meddygol ond yn ôl y Groes Goch mae effaith y warchae'n niweidiol iawn i economi Palesteina ac yn creu argyfwng oherwydd diffyg nwyddau meddygol hanfodol megis ffilm Pelydr-X.[16] Cred y Groes Goch hefyd fod y gwarchae hwn gan Israel yn anghyfreithiol ac yn groes i Gyfraith Ryngwladol, Ddynol (Saesneg: international humanitarian law)[17]
Yn Rhagfyr 2008, cafwyd ymosodiad gan Lu Awyr Israel a lladdwyd dros 300 o Balesteiniaid o fewn deuddydd. Ar y 3ydd o Ionawr 2009 symudodd tanciau a milwyr Israel i mewn i'r Llain a gwelwyd llawer o fomio o awyrennau a hofrenyddion Israel yn rhagflaenu'r milwyr. Cafwyd protestiadau yn erbyn Israel led-led Cymru gan gynnwys Caerdydd, Abertawe a Chaernarfon.