Rafah yw'r dref fwyaf yn ne Llain Gaza, gyda phoblogaeth o tua 130,000, a 84,000 yn byw yn y ddwy wersyll i ffoaduriaid a geir yno, sef Gwersyll Canada (Gwersyll Tell as-Sultan) i'r gogledd, a Gwersyll Rafah i'r de. Mae'n gwasanaethu fel canolfan ranbarthol Talaith Rafah (Rafah Governorate). Lleolir Maes Awyr Rhyngwladol Yasser Arafat, unig faes awyr Llain Gaza, fymryn i'r de o Rafah; rhedodd o 1998 hyd 2001 ond mae ar gau heddiw. Yn Rafah ceir yr unig groesfan swyddogol rhwng Llain Gaza a'r Aifft.
Mae Rafah a'r cylch yn adnabyddus am y rhwydwaith o dwnelau cudd sy'n croesi'r ffin. Maent yn fodd i smyglo bwyd a nwyddau - ac arfau - i mewn i Gaza ac i bobl geisio ddianc i'r Aifft i chwilio am waith. Ni fu'r bomio yn Ymgyrch fomio Llain Gaza Rhagfyr 2008 yn gyfyngedig i ardal dinas Gaza yn unig. Cafwyd sawl cyrch bomio awyr yn erbyn twnelau Rafah. Yn ôl adroddiadau dioddefodd y ddinas ei hun niwed sylweddol yn yr ymosodiadau hefyd.[1]