Ymdeithgan yr Urdd

Ymdeithgan yr Urdd

Dathlwn glod ein cyndadau,
Enwog gewri Cymru fu;
Gwŷr yn gweld y seren
Ddisglair trwy y cwmwl du,
Ar ôl llawer awel groes,
Atgyfodwn yn ein hoes,
Hen alawon dysg a moes Cymru Fu.

Cytgan
Sain, cerdd a chân,
Hen Gymru lân,
Heddiw lanwo Gymru wen, Cymru lân,
Plant Cymru Fu, hen Gymru gu,
Codwn enw Cymru lân.

Bonedd Gwlad gyda’i gwerin
Foesymgrymant ger ei bron,
Merched mwyn a llanciau
Roddant gêd ar allor hon;
Dewch â’i thelyn feinlas fwyn,
Hen alawon syml eu swyn,
Adlais odlau grug a brwyn Cymru Fydd.

1920

Caiff Ymdeithgan yr Urdd ei chanu yn seremonïau Eisteddfod yr Urdd ac yn nigwyddiadau eraill yr Urdd. Yn hanesyddol byddai'n cael ei chanu yng ngwersylloedd yr Urdd, yn aelwydydd yr Urdd, ac i agor neu gau eisteddfodau cylch a sir.[1]

Mae'r gân yn hŷn na'r Urdd o rai blynyddoedd; sefydlwyd yr Urdd yn 1922, a chyhoeddwyd y gân o dan yr enw Ymdaith Capten Llwyd mewn cyfrol o'r enw Alawon Gwerin Cymru, Rhan II, a gyhoeddwyd ym 1920. Trefniant gan J. Lloyd Williams o alaw werin Ymdaith Capten Llwyd yw'r dôn, ac ysgrifennwyd y geiriau gan Llew Tegid. Yn 1928 y cysylltwyd yr ymdeithgan gyda'r Urdd am y tro cyntaf, pan gyhoeddwyd hi o dan y teitl 'Ymdaith yr Urdd'.[2][3][4]

Cyn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022, comisiynwyd Band Pres Llareggub a Lily Beau i greu fersiwn newydd o Ymdeithgan yr Urdd.[5]

Dolenni allanol

Cyfeiriadau