Yng Nghymru, mae'n debyg ei fod yn fwyaf enwog am ei waith yn casglu hen alawon gwerin ac ef sefydlodd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a golygodd ei chylchgrawn o 1909 hyd at ei farwolaeth yn 1945. Cyhoeddodd sawl trefniant o ganeuon gwerin a phedair cyfrol o hunangofiant. Bu ei gyfansoddiad boblogaidd Aelwyd Angharad (1899)[5] yn ddylanwadol iawn.
Botaneg
Roedd John Lloyd Williams yn fachgen ifanc pan oedd dadl esblygiad yn ei hanterth yn dilyn cyhoeddi The Origin of Species Charles Darwin. Roedd y 19g hefyd yn gyfnod datblygu yr astudiaeth o ddosbarthiad daearyddol planhigion. Bu ei gyfraniad at faes astudiaethau gwymon o bwys rhyngwladol[6]. Yn 1897 ymunodd â staff Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn ddarlithydd llysieueg cyn cyfnod gyda’r Bwrdd Amaethyddiaeth ym Mangor ac yna symud i Gadair Llysieueg Prifysgol Cymru Aberystwyth o 1915 i 1925. Tra ym Mangor, bu gwymon glannau’r Fenai a’u hymateb i lanw a thrai rhythmig y culfor hwnnw yn ysbrydoliaeth iddo. Datrysodd fanylion cylch bywyd y gwymon brown cyffredin a chodog Fucus. Mae’r gwaith hwn i’w weld o hyd yng ngwerslyfrau’r unfed ganrif ar hugain. Yn 1904-05 ymddangosodd ei waith enwocaf ar Dictyota[7][8], math arall o wymon brown sy’n nodweddiadol am eu rhythmau ffisiolegol. Parhaodd i gyhoeddi trwy gydol ei yrfa, er enghraifft ar gylch bywyd y gwymon mawr, Laminaria[9]. Roedd y gwaith hwn ymhell ar flaen ei amser ac yn berthnasol iawn i waith cyfredol ym maes clociau biolegol. Yn ôl pob sôn, ‘roedd hefyd yn addysgwr penigamp ac yn hoff o dywys dosbarthiadau o fyfyrwyr ar hyd moelydd Eryri. Yn ystod y teithiau hyn daeth daeth ei ddau gariad ynghyd wrth iddo hefyd gasglu alawon a chaneuon wrth alw heibio’r tyddynnod. Yn 90 oed derbyniodd anrheg o ffon gerdded. “Bydd hwn yn ddefnyddiol pan fyddaf yn hen,” oedd ei ymateb[6].
Daeth John Lloyd Williams o hyd i un o redynau prinnaf Cymru sef yr hyn a elwir heddiw yn T. speciosum. Yn Saesneg gelwir hi'n Killarney fern[10], a bristle fern. Yr enw Cymraeg yw rhedynen wrychog neu'r llugwe fawr.