Ymddiriedolaeth y BBC

Ymddiriedolaeth y BBC
Enghraifft o:sefydliad Edit this on Wikidata
Daeth i ben2 Ebrill 2017 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Ionawr 2007 Edit this on Wikidata
RhagflaenyddBoard of Governors of the BBC Edit this on Wikidata
OlynyddBBC Board Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.bbc.co.uk/bbctrust Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ymddiriedolaeth y BBC (Saesneg: BBC Trust) oedd corff penderfynu’r Corfforaeth Ddarlledu Brydeinig, BBC, rhwng 2007 a 2017. Roedd yn annibynnol ar gyrff rheoli a gweithredol, a’i nod oedd gweithredu er budd gwylwyr a oedd yn talu ffi’r drwydded deledu.

Hanesyddol

Crëwyd yr Ymddiriedolaeth trwy Siarter Frenhinol ar 1 Ionawr 2007, gan ddisodli Bwrdd y Llywodraethwyr.

Yn hwyr yn 2012 roedd Ymddiriedolaeth y BBC wedi ei siglo pan ddatgelodd y wasg fod y BBC wedi gwrthod darlledu rhaglen ddogfen am y cyflwynydd pedoffiliaid, Jimmy Savile.[1].

Yn 2014, pan lansiodd y BBC ei wasanaeth trwyddedu rhyngwladol, Ymddiriedolaeth y BBC oedd ei phrif gorff rheoli.[2]

Argymhellodd Adroddiad Clementi 2016 y dylid trosglwyddo trefniadau llywodraethu’r BBC i Ofcom a datgymalu Ymddiriedolaeth y BBC.[3][4] Disodlwyd Ymddiriedolaeth y BBC ar 2 Ebrill 2017 gan Fwrdd y BBC pan ddaeth y Siarter Frenhinol newydd i rym.

Aelodau

RonaFairhead, Cadeirydd olaf yr Ymddiriedolaeth

Gwelir Ymddiriedolaeth y BBC fel meincnod ym maes darlledu cyhoeddus oherwydd nad oes yr un o'i haelodau yn seneddwyr. Bwriad y dewis o aelodau, a ddaw o'r diwydiant darlledu, gan y Frenhines oedd nodi eu hannibyniaeth oddi wrth arweinwyr prif bleidiau'r llywodraeth.[5].

Swyddogaethau

Yn ôl y Siarter Frenhinol, prif rôl Ymddiriedolaeth y BBC yw goruchwylio strategaeth reoli’r BBC, a goruchwylio gwaith y Bwrdd Gweithredol, i gyd er budd y cyhoedd.[6]

Cadeiryddion

Cyfnod Enw
1 Ion. 2007 - 30 Ebr. 2007 Chitra Bharucha (interim)
1 Mai 2007 - 1 Mai 2011 Michael Lyons
1 Mai 2011 - 6 Mai 2014 [7] Chris Patten
6 Mai 2014 [7] - 8 Hyd. 2014 Diane Coyle (interim)
9 Hyd. 2014[8] - 2 Ebr. 2017 Rona Fairhead

Yr Ymddiriedolaeth a'r Gwledydd Celtaidd

Nid oedd gan yr Ymddiriedolaeth reolaeth na dylanwad dros S4C gan bod gan y Sianel Gymraeg Siarter Brenhinol ei hun. Ond roedd yn ymwneud â gorsafoedd radio yn yr ieithoedd brodorol a'r cenhedloedd Celtaidd: BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales, BBC Radio Scotland, BBC Radio nan Gàidheal, BBC Radio Ulster, BBC Radio Foyle a BBC Alba.[9]

Bu i'r Ymddiriedolaeth hefyd chwarae rhan weithredol wrth sefydlu sianel Gaeleg BBC Alba. Yn 2007, agorodd Ymddiriedolaeth y BBC ymgynghoriad ar wasanaeth digidol Gaeleg mewn partneriaeth â Gaelid Media Service a arweiniodd at sefydlu'r sianel yn 2008.

Mae BBC Alba yn unigryw gan mai hi yw’r sianel gyntaf i gael ei darparu o dan drwydded BBC gan bartneriaeth yn ogystal â bod y sianel aml-genre gyntaf i ddod yn gyfan gwbl o’r Alban gyda bron pob un o’i rhaglenni wedi’u gwneud yn yr Alban.[10][11]

Dolenni allannol

Cyfeiriadau

  1. "Jimmy Savile: 'Terrible damage' to BBC - Trust chairman". BBC News. 25 Hydref 2012. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2023.
  2. Bearne, Suzanne (2013-06-25). "BBC Trust reveals World Service plan". Broadcast. Cyrchwyd 2023-11-28.
  3. Martinson, Jane; Sweney, Mark (2016-03-01). "Report urges end to 94 years of BBC self-regulation". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-11-28.
  4. "BBC Trust should be scrapped, independent review says". www.ft.com. 2016-03-01. Cyrchwyd 2023-11-28.
  5. "La composition et les missions du BBC Trust" sous-chapitre du rapport d'information du Sénat français de 2012 "Télévision publique et sport : les atouts du modèle britannique" [1]
  6. In summary, the main roles of the Trust are in setting the overall strategic direction of the BBC, including its priorities, and in exercising a general oversight of the work of the Executive Board. The Trust will perform these roles in the public interest, particularly the interest of licence fee payers. — BBC Royal Charter (2006)
  7. 7.0 7.1 Sweney, Mark (2014-05-06). "BBC Trust chairman Lord Patten stands down". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-11-28.
  8. "Rona Fairhead confirmed as the new BBC Trust Chairman". Diversity UK. 2014-10-08. Cyrchwyd 2023-11-28.
  9. Ymddiriedolaeth y BBC Adolygiad gwasanaeth: gwasanaethau newyddion a radio’r BBC i’r cenhedloedd, BBC, 2016, https://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/our_work/nations_radio_news/cy_summary_report.pdf
  10. "Gaelic digital TV channel debated" (yn Saesneg). BBC Online. 29 Awst 2007. Cyrchwyd 3 Awst 2007.
  11. "Launch date for Gaelic TV channel". BBC News (yn Saesneg). 13 Awst 2008. Cyrchwyd 23 Mawrth 2010.
Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato