Economegydd a gwleidydd o Wlad Groeg yw Yanis Varoufakis (Groeg: Ιωάννης "Γιάνης" Βαρουφάκης Ioannis "Gianis" Varoufakis; ganwyd 24 Mawrth 1961). Gwasanaethodd yn swydd Gweinidog Cyllid Groeg o Ionawr hyd Orffennaf 2015, ac roedd yn aelod seneddol dros etholaeth Athen B o Ionawr hyd Fedi 2015.
Fe'i ganwyd yn Palaio Faliro, Athen, yn fab i George ac Eleni Varoufakis.