Catrawd o droedfilwyr yn y Fyddin Brydeinig yw'r Gwarchodlu Gwyddelig (Saesneg: Irish Guards; IG) sy'n rhan o Adran y Gwarchodluoedd. Mae ganddi un fataliwn. Mae'r fyddin yn recriwtio Gwarchodluwyr Gwyddelig o Ogledd Iwerddon a'r gymuned Wyddelig ym Mhrydain Fawr. Ni cheir hawl i recriwtio yng Ngweriniaeth Iwerddon, ond mae rhai dinasyddion Gwyddelig yn listio â'r gatrawd ar liwt eu hunain.
Sefydlwyd y gatrawd gan y Frenhines Fictoria ar 1 Ebrill 1900 i ddangos ei gwerthfawrogiad i filwyr Gwyddelig a ymladdodd yn Ail Ryfel y Boer.[1]Yr Arglwydd Roberts oedd cyrnol cyntaf y gatrawd, ac oddi arno ef daeth yr hen lysenw "Bob's Own".[2] Llysenw modern y Gwarchodlu Gwyddelig yw'r "Micks".[1][3]
Mae cap y Gwarchodluwyr Gwyddelig yn las gyda band a gwaltas werdd.[2] Seren Urdd Sant Padrig, sy'n dangos meillionen yn ei chanol, yw'r bathodyn cap. Yn debyg i gatrodau troedfilwyr eraill yn Adran yr Osgordd, mae defnydd o'r bathodyn yn amrywio yn ôl rheng y milwr.[4]
Traddodiadau
Rhoddir meillionen i bob aelod o'r gatrawd ar Ŵyl Sant Padrig, sef 17 Mawrth. Gorchmynodd y Frenhines Fictoria y seremoni hon, a ddechreuwyd gan y Frenhines Alexandra ym 1901. Cyflwynodd Elisabeth y Fam Frenhines y feillionen pob blwyddyn o 1968 hyd ei marwolaeth. Mae'r Gwarchodlu Gwyddelig wedi paredio bleiddgi Gwyddelig, masgot y gatrawd, ers 1902. Enwir y bleiddgwn ar ôl penaduriaid hanesyddol Iwerddon.[5]
Anrhydeddau brwydrau
Y Rhyfel Byd Cyntaf: Mons, Enciliad Mons, Marne 1914, Aisne 1914, Ypres 1914 a 1917, Langemarck 1914, Brwydr Gheluvelt, Nonne Bosschen, Festubert 1915, Loos, Somme 1916 a 1918, Flers-Courcelette, Morval, Pilckem, Poelcapelle, Passchendaele, Cambrai 1917 a 1918, St. Quentin, Lys, Hazebrouck, Albert 1918, Bapaume 1918, Arras 1918, Scarpe 1918, Drocourt-Quéant, Llinell Hindenburg, Canal du Nord, Selle, Sambre, Ffrainc a Fflandrys 1914–18
Gogledd-orllewin Ewrop: Pothus, Norwy 1940, Boulogne 1940, Cagny, Mont Pincon, Neerpelt, Nijmegen, Aam, Y Rheindir, Hochwald, Y Rhein, Bentheim, Gogledd-orllewin Ewrop 1940 a 1944–45
Gogledd Affrica: Gwastadedd Medjez, Djebel bou Aoukaz, Gogledd Affrica 1943
Yr Eidal: Anzio, Aprilia, Carroceto, Yr Eidal 1943–44