Gwraig Siôr VI, brenin y Deyrnas Unedig oedd Elizabeth Angela Marguerite Bowes-Lyon (4 Awst 1900 – 30 Mawrth 2002).
Cafodd ei geni yn Llundain, yn ferch i Claude George Bowes-Lyon, Arglwydd Glamis, a'i wraig Cecilia Nina Cavendish-Bentinck. Priododd Y Tywysog Albert, Dug Caerefrog ar 26 Ebrill 1923, yn Abaty Westminster.
Brenhines rhwng 1936 a 1952 (marwolaeth y brenin Siôr) oedd hi. Perchen y Castell Mey yn yr Alban ers 1952 oedd hi, ond bu farw yn Windsor.
Plant
Ffilmiau a Theledu
Mae'r ffilm The King's Speech (2010) yn serennu Helena Bonham-Carter fel Elizabeth. Mae'r ffilm The Queen (2006) yn serennu Sylvia Syms fel Elizabeth.
Mae'r drama teledu Edward & Mrs Simpson (1978) yn serennu Amanda Reiss fel Elizabeth.