Saif Xi'an ar afon Wei he, yn weddl agos at ei chymer gyag afon Huang He. Yma yr oedd pen dwyreiniol Ffordd y Sidan. Bu'n brifddinas Tsieina yng nghyfnod Brenhinllin Tang, ac roedd y boblogaeth dros filiwn yn y cyfnod yma.
Ystyrir y ddinas fel un o ganolfannau hen wareiddiad Tsieina. Roedd prifddinas Brenhinllin Qin gerllaw, ac yma mae y Fyddin Derracotta enwog, sy'n gwarchod bedd yr ymerawdwr cyntaf, Qin Shi Huangdi.