dinasoedd dynodedig Japan, prefectural capital of Japan, dinas fawr, dinas Japan, cyrchfan i dwristiaid, former national capital, tref goleg, city for international conferences and tourism
Dinas hynafol yng nghanolbarth Japan, yn ne ynys Honshu, yw Kyoto (Japaneg: 京都市 Kyōto-shi). Mae wedi bod yn ganolfan diwylliant pwysig iawn ers y cyfnod Heian pan fu'n brifddinas y wlad (794–1192). Erys nifer o balasau a themlau hynafol yn y ddinas. Mae'n ddinas bwysig i ddilynwyr Shinto. Fe'i hystyrir yn ganolfan bwysicaf Bwdhaeth Siapanaidd yn ogystal.