aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig
Ymunodd a chatrawd Gwarchodlu'r Coldstream ym 1867 gan wasanaethu fel capten ag uwchgapten, ond ymadawodd ar fyddin tair blynedd yn ddiweddarach er mwyn edrych ar ôl ystâd helaeth ei deulu yn siroedd Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion. Etifeddodd yr ystâd a'r Barwniaeth ar farwolaeth ei dad ym 1872
Gwasanaethodd fel Dirprwy Raglaw Sir Benfro o 1862 ac fel Arglwydd Raglaw'r sir ym 1872. Gwasanaethodd fel Gwas Wrth Aros i'r Frenhines Victoria rhwng 1873 a 1874. Gwasanaethodd fel Distain Gosgordd y Frenhines o 1880 hyd 1885 pan ddyrchafwyd ef i swydd Arglwydd wrth Aros. Gwasanaethodd fel Capten Iwmyn y Gard o 1892 i 1895[2]
Gyrfa Wleidyddol
Safodd yn etholaeth Hwlffordd fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholiad cyffredinol 1865, gan golli yn erbyn y deiliad CeidwadolJohn Henry Scourfield . Yn etholiad cyffredinol 1868 penderfynodd Scourfield sefyll dros Sir Benfro yn hytrach na'r fwrdeistref. Safodd Edwardes eto yn enw'r Rhyddfrydwyr gan lwyddo i gipio'r sedd. Er i Edwardes etifeddu'r teitl Y Barwn Kensington ym 1873, gan ei fod yn arglwyddiaeth yn y bendefigaeth Wyddelig yn hytrach nag un y DU, ni chafodd ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi a pharhaodd i gynrychioli Hwlffordd yn y Senedd hyd ddiddymu'r sedd ar gyfer etholiad cyffredinol 1885. Wedi diddymu Hwlffordd, safodd yr Arglwydd Kensington dros y Rhyddfrydwyr yn etholaeth Hornsey gan golli'n drwm i Syr James McGarel-Hog y deiliad Ceidwadol.
Wedi methu a dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin cafodd ei ddyrchafu gan Gladstone i Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn 1af Kensington ym mhendefigaeth y Deyrnas Unedig. Gwasanaethodd fel Chwip y Blaid Ryddfrydol yn y ddau dy.
Marwolaeth
Bu farw yn ddisymwth o drawiad ar y galon yn Kelso, yr Alban tra ar daith hela[3]. Claddwyd ei weddillion yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Sain Ffrêd[4]