Treuliodd gyfnod yn gweithio fel clerc wedi iddo adael yr ysgol yn 17 mlwydd oed cyn mynychu Lincoln's Inn fel myfyriwr Y Gyfraith yn 1846. Ystyriodd yrfa fel arlunydd ond wedi iddo gyhoeddi llyfr yn son am hanes bywyd ei dad, yn 1850, a'r nofel Antonina, yn 1851, sicrhawyd ei ddyfodol fel awdur llewyrchus. Ni wnaeth Collins briodi, ond bu'n byw a gweddw, Mrs Caroline Graves, o 1858 hyd ei farwolaeth. Hefyd, cafodd dri phlentyn gan wraig ifancach, Martha Rudd; fe'i cadwodd hi mewn sefydliad arall. Roedd Collins yn dioddef o'r gymalwst rhiwmatig (rheumatic gout), math o grydcymalau a'i drodd yn glaf yn ei flynyddoedd olaf. Yn ogystal, magodd gaethiwed at y laudanum a gymerodd i leddfu'r boen.
Mae sawl un o'r farn mai Collins ddechreuodd genre'r nofelau ditectif a mae'r rhan fwyaf o'i weithiau enwocaf yn perthyn i'r symudiad cyffrogarol (sensationalism) a oedd yn boblogaidd ar y pryd. Roedd Collins yn ffrindiau mawr a Charles Dickens, nofelydd amlyca'r cyfnod ym marn llawer.
Addasiadau
Yn 2004, agorodd addasiad o nofel enwocaf Collins, The Woman in White, ar lwyfan y Palace Theatre yn Llundain fel sioe gerdd. Cyfansoddwyd y sioe gan Andrew Lloyd Webber ac addaswyd y testun gwreiddiol gan Charlotte Jones a David Zippel.
Llyfryddiaeth
Memoirs of the Life of William Collins, Esq., R.A. (1848)