Adeilad rhestredig Gradd I yng Nghaerdydd yw Wal yr Anifeiliad. Wal ydyw â phymtheg ceflun o anifeiliad a saif ar Stryd y Castell, rhwng canol y ddinas a Parc Bute. Safai yn wreiddiol o flaen Castell Caerdydd, ond fe'i symudwyd pan oedd rhaid lledaenu'r ffordd, ac ar yr adeg yma ychwanegwyd mwy o gerfluniau.
Hanes
Cafodd William Burges, y pensaer a fu'n atgyweirio'r castell ar gyfer Ardalydd Bute, y syniad gyfer y wal ym 1866,[1] ar ôl gweld darluniadau canoloesol gan Villard de Honnecourt.[2] Mae'r fath fanylion chwareus yn nodweddiadol iawn o waith Burges. Bu farw Burges ym 1881 cyn i'w syniad gael ei wireddu, ac o ganlyniad pan y trodd sylw Arglwydd Bute at adeiladu wal derfyn ddeheuol y castell ym 1883[3] y pensaer a fu'n gyfrifol oedd olynydd Burges, William Frame.[1] Cerfiwyd y chwe anifail cyntaf allan o garreg lleol, yn bennaf gan Thomas Nicholls a'i fab; gellir gweld y modelau plastr ar eu cyfer yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Fe'u gosodwyd yn eu lle ym mis Medi 1888 yn barod ar gyfer ymweliad gan Ardalydd Bute; nid oedd ef yn ystyried y llewod yn ddigon ffyrnig a bu'n rhaid eu hael-gerfio. Gosodwyd gweddill y cerfluniau yn eu lle ym 1890.[3]
Symudwyd y wal i'w safle bresennol a'i hymhelaethu tua 1930.[2] Ychwanegwyd chwe cherflun newydd a'u cerfiwyd gan Alexander Carrick o Gaeredin.[2] Gellir gwahaniaethu rhwng y cerfluniau Fictoraidd a'r rheiny o'r 20g yn hawdd am nad oes gan y rhai diweddarach llygaid gwydr.[4] Yn y 1970au roedd cynllunwyr y ddinas yn ystyried dymchwel y wal er mwyn lledaenu'r ffordd ymhellach, ond bu banllef o brotest gan y cyhoedd ac fe'i chadwyd.[5] Atgyweiriwyd y wal yn 2010 fel rhan o brosiect cyffredinol i adfer Parc Bute.[6]