Mamal mawr byrgoes, cryf o gorff, ac sy'n perthyn i deulu'r Ursidae yw arth (enw benywaidd; ll. eirth). Mae'n hollysydd sy'n bwyta aeron, cnau, gwreiddiau, mêl, pysgod ac anifeiliaid bychain. Er eu bod fel arfer yn araf ac yn drwsgl, mae eirth yn symud yn gyflym iawn dros bellter byr, yn enwedig ar dir garw neu serth. Ceir 8 rhywogaeth gan gynnwys y panda anferth.
Mathau o eirth
Panda anferth (Giant panda, Ailuropoda melanoleuca)
Arth sbectolog (Spectacled bear, Tremarctos ornatus)
Arth frown (Ursus arctos)
Arth ddu (Ursus americanus)
Arth wen (Polar bear, Ursus maritimus)
Arth ddu Asia (Asiatic black bear, Ursus thibetanus)
Arth weflog (Sloth bear, Melursus ursinus)
Arth Malaia (Sun bear, Helarctos malayanus)