Roedd Vera Frantsevna Menchik (16 Chwefror 1906 – 26 Mehefin 1944) yn chwaraewr gwyddbwyll o Tsiecoslofacia. Menchik oedd pencampwr gwyddbwyll byd cyntaf menywod.[1]
Cafodd ei geni ym Moscfa, Rwsia, yn ferch i František Menčík o Bohemia a'i wraig Seisnig (ganwyd Olga Illingworth). Roedd ei chwaer, Olga Menchik, hefyd yn chwaraewr gwyddbwyll. Ym 1921 aethant i fyw i Hastings, Lloegr, gyda'u mam. Priododd Rufus Stevenson ym 1937 a bu farw Stevenson ym 1943.
Bu farw Vera, ei chwaer Olga, a'u mam mewn cyrch awyr ym 1944 pan syrthiodd bom hedegog V-1 gan ddinistrio'u tŷ yn Clapham, De Llundain.[2]
Cyfeiriadau