Hastings

Hastings
Mathtref, tref farchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Hastings
Poblogaeth91,053 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iSchwerte, Oudenaarde, Dordrecht Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDwyrain Sussex
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd29.72 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBattle Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.85°N 0.57°E Edit this on Wikidata
Cod OSTQ817094 Edit this on Wikidata
Map

Tref ar arfordir yn Nwyrain Sussex, De-ddwyrain Lloegr, ydy Hastings.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Hastings, ac i bob pwrpas mae gan y dref yr un ffiniau â'r ardal.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Hastings boblogaeth o 91,053.[2]

Yn y gorffennol bu'n borthladd pwysig, yn un o'r Pum Porthladd (Cinque Ports). Heddiw mae'n dref breswyl yn bennaf.

Ymladdwyd Brwydr Hastings ar 14 Hydref 1066 tua 11 km (7 mi) i'r gogledd-orllewin o'r dref, ger tref Battle. Lladdwyd Harold II o Loegr a daeth arweinydd y Normaniaid, Gwilym, Dug Normandi, yn frenin Lloegr yn ei le. Yn ddiweddarach cododd Gwilym gastell yn Hastings, sydd bellach yn adfail.

Mae Caerdydd 271.1 km i ffwrdd o Hastings ac mae Llundain yn 86.8 km. Y ddinas agosaf ydy Brighton sy'n 50.1 km i ffwrdd.

Gefeilldrefi

Cyfeiriadau

  1. British Place Names; adalwyd 29 Mawrth 2020
  2. City Population; adalwyd 6 Mehefin 2020


Eginyn erthygl sydd uchod am Ddwyrain Sussex. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato