Y PrvaLiga Telekom Slovenije neu, ar lafar ac yn dalfyredig, PrvaLiga yw Uwch Gynghrair pêl-droedSlofenia a phinacl system byramid cynghrair y wlad, Slovenska Nogometna Liga sy'n cynnwys 3 prif haen - dwy adran genedlaethol ac yna adrannau rhanbarthol, Gogledd, Dwyrain, De, Gorllewin. Talfyrrir enw'r Uwch Gynghrair i 1. SNL. Gweinyddir yr Uwch Gynghrair a'r cynghreiriaid eraill gan Gymdeithas Bêl-droed Slofenia.
Rhwng 1920 a 1991, roedd cynghrair Slofenia yn rhan yr is-strwythur rhanbarthol yn system gynghrair yr hen wladwriaeth, Iwgoslafia. Ers annibyniaeth y wlad oddi ar Iwgoslafia, y Slovenska Nogometna Liga yw prif adran genedlaethol Slofenia. Mae enillwyr yr adran yn ennill yr hawl i gystadleu mewn pencampwyriaethau rhyngwladol Ewropeaidd UEFA.
Cyn Annibyniaeth
Cyn hynny, roedd timau gorau Slofenia yn cystadlu yn system gynghrair pêl-droed Iwgoslafia am deitl cenedlaethol Iwgoslafia. Dim ond Ilirija, a Primorje ac ar ôl uno gorfodol o'r ddau dîm ym 1936, SK Ljubljana, a gyrhaeddodd adran uchaf y wlad, Uwch Gynghrair Iwgoslafia , cyn yr Ail Ryfel Byd. Olimpija, Maribor a Nafta oedd yr unig dimau o Slofenia a gymerodd ran yn yr adran uchaf rhwng 1945 a chwalfa Iwgoslafia ym 1991. Wrth fod yn rhan o system bêl-droed Iwgoslafia, cystadlodd y mwyafrif o glybiau Slofenia am deitl pencampwyr rhanbarthol yng Nghynghrair Bêl-droed Gweriniaeth Slofenia. Fodd bynnag, cynghrair y weriniaeth yn swyddogol oedd y drydedd haen o bêl-droed y rhan fwyaf o'r amser ac roedd y gystadleuaeth fel arfer heb y prif glybiau Slofenia, a chwaraeodd yn Ail Gynghrair Iwgoslafia neu adran uchaf y wlad.
Wedi Annibyniaeth
Gelwyd y gynghrair am flynyddoedd wedi'r prif noddwr, Liga Si.mobil Vodafone. Ers ers tymor 2006/07 fe'i gelwir yn swyddogol yn PrvaLiga Telekom Slovenije, wrth i’r noddwr newid.
Mae'r strwythur y gynghrair wedi newid sawl gwaith ers ei sefydlu:
Tymor cyntaf, 1991/92 - roedd 21 tîm yn y uwch adran.[1][2][3]
Ail dymor (1992-93) - gostyngwyd nifer y clybiau i 18
Trydydd tymor (1993-94) - gostynigiad efo i dim ond 16 tîm
Ers tymor 1995/96 dim ond deg tîm sy'n cymryd rhan yng nghystadleuaeth yr Uwch Gynghrair
Yn 1998/99 bu cynnydd i 12 clwb, tra bod gan bob clwb dair gêm yn erbyn pob clwb arall, d. h. cyfanswm o 33 gêm dymor.
Yn 2003-04 a 2004-05 cynhaliwyd rownd ragarweiniol lle roedd pob tîm yn cystadlu yn erbyn pob un mewn gêm gartref a oddi cartref. Fe'i dilynwyd gan rownd bencampwriaeth, lle bu'r chwech gorau yr un yn cystadlu ddwywaith eto.
Yn 2005/06 gostyngwyd y nifer eto i 10 tîm a chyflwynodd y drefn sydd wedi para hyd yma.
Celje a Maribor yw'r unig ddau glwb nad sydd wedi disgyn o'r Uwch Gynghrair ers ei sefydlu yn 1991.[4]
Y Strwythur Gyfredol
Ar hyn o bryd mae deg tîm yn chwarae ar gyfer y bencampwriaeth. Bydd pob tîm yn cystadlu yn erbyn pob tîm arall mewn dwy gêm gartref ac oddi cartref. Y tabl yn gyntaf ar ôl y 36 gêm a ymleddwyd hyd yma yw pencampwr Slofenia. Mae'r nawfed tabl yn gwadu dwy gêm relegation yn erbyn ail gynghrair Slofenia sydd yn yr ail safle. Mae gwaelod y tabl yn disgyn yn awtomatig ac yn cael ei ddisodli gan bencampwr yr ail gynghrair.
Fel sy'n gyffredin nawr yn y mwyafrif o gynghreiriau yn y byd, mae yna dri phwynt i'w hennill ac un pwynt i'w dynnu.
Večni derbi (Y Darbi tragwyddol) - NK Maribor vs NK Olimpija.
Štajerski derbi (Darbi talaith Styria) - NK Maribor v NK Celje. Ras y ddwy ddinas fwyaf yn Styria.
Primorski derbi (Darbi Primorski - yr arfordir) - NK Ankaran yn erbyn ND Gorica. Gêm rhwng dau o'r timau mwyaf llwyddiannus o Primorska.
Ljubljanski derbi (Darbi Ljubljana - y brifddinas) - NK Domzale vs NK Olimpija. Gêm rhwng dau o dimau mwyaf llwyddiannus Canol Slofenia.
Prekmurski derbi (Darbi Prekmurje - ardal ger y ffin â Hwngari) - NK Mura vs NK Nafta. Gêm y ddau dîm Prekmurje mwyaf llwyddiannus.
Cyfeiriadau
↑Sportal (20 May 2011). "Zgodovina 1. SNL" [History of 1. SNL] (yn Slovenian). Siol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 3 May 2012.CS1 maint: unrecognized language (link)