Primeira Liga

Y Primeira Liga (Cymraeg: Prif Adran) yw prif adran system bêl-droed proffesiynol Portiwgal. Fe'i hadnabyddir, am resymau nawdd, fel Liga NOS. Mae 18 tîm yn yr adran gyda'r ddau dîm sy'n gorffen ar waelod yr adran ar ddiwedd y tymor yn disgyn i'r Segunda Liga.

Fe'i ffurfiwyd ym 1934 fel y Primeira Divisão (Adran Gyntaf) cyn cael ei mabwysiadu'n gynghrair swyddogol ym 1938. Mae 70 o dimau wedi chwarae yn y brif adran ond dim ond pum tîm syudd erioed wedi eu coroni'n bencampwyr – Benfica (37 pencampwriaeth), Porto (28), Sporting CP (18), Belenenses (1) a Boavista (1)[1].

Cyfeiriadau

  1. "BENFICA CAMPEÃO: todos os vencedores da Liga". Mais Futebol (yn Portiwgaleg).