- Gweler hefyd Aeron (gwahaniaethu).
Uwch Aeron oedd un o dri chantref Ceredigion yn yr Oesoedd Canol.
Roedd yn gorwedd yn y canol rhwng cantrefi Penweddig i'r gogledd ac Is Aeron i'r de (ystyrid Cantref Penweddig yn rhan o ardal Uwch Aeron yn aml). Gorweddai Uwch Aeron i'r gogledd i Afon Aeron tra gorweddai Is Aeron i'r de ohoni.
Rhennid y cantref yn dri chwmwd:
I'r dwyrain roedd Uwch Aeron yn ffinio â chantref Buallt (Buellt) a Chwmwd Deuddwr ym Mhowys ac yn cyffwrdd a rhan ogleddol y Cantref Mawr yn Ystrad Tywi i'r de-ddwyrain.
Roedd canolfannau pwysicaf y cantref yn cynnwys clas hynafol Llanddewi Brefi, a gysylltir ag un o wyrthiau Dewi Sant, a safle Abaty Ystrad Fflur.
Gweler hefyd