- Gweler hefyd Aeron (gwahaniaethu).
Afon sy'n llifo o'r dwyrain i'r gorllewin ar draws canol sir Ceredigion yw Afon Aeron. Yn yr Oesoedd Canol dynodai'r ffin rhwng cantrefi Uwch Aeron (i'r gogledd o'r afon) ac Is Aeron (i'r de).
Mae'r afon yn tarddu yn ardal y Mynydd Bach, plwyf Blaen Pennal ac yn llifo i'r de gan ddisgyn yn gyflym i ran uchaf Dyffryn Aeron ger Llangeitho. Yno mae'n llifo i'r gorllewin ar hyd y dyffryn heibio i gymunedau bychain fel Capel Betws Leucu, gan ffurfio llawr gweddol llydan i'r dyffryn.
Ger Trefilan mae'n troi ar gwrs i gyfeiriad y gogledd-orllewin, heibio i Giliau Aeron a Llanaeron, lle daw Afon Mydyr i mewn iddi o'r de, i gyrraedd y môr yn Aberaeron lle mae'n ymarllwys i Fae Ceredigion.