Hen ddinas yng Ngogledd Affrica oedd Utica. Saif i'r gogledd-ddwyrain o safle dinas Carthago, yn yr hyn sy'n awr yn Tiwnisia, ar wastadedd tua hanner ffordd rhwng Tiwnis a Bizerte, yng nghyffiniau tref Kalâat el-Andalous yn nhalaith Ariana yng ngogledd-orllewin y wlad. Arferai Utica fod ar arfordir y Môr Canoldir, ond erbyn hyn mae'n 8 km o'r môr. Bu'n brifddinas talaith Rufeinig Affrica o 146 CC hyd 25 O.C..
Sefydlwyd y ddinas gan y Ffeniciaid tua 1101 CC yn ôl Plinius yr Hynaf. Datblygodd yn borthladd pwysig. Cymerodd ran yn y rhyfel yn erbyn dinasoedd Magna Graecia, ac o ganlyniad cipiwyd y ddinas gan Agathocles yn 308 CC. Cefnogodd Carthago yn ei brwydr yn erbyn Gweriniaeth Rhufain yn y Rhyfel Pwnig Cyntaf a'r Ail Ryfel Pwnig. Yn y Trydydd Rhyfel Pwnig, ildiodd i'r Rhufeiniaid yn syth, a chynorthwyodd y Rhufeiniaid yn erbyn Carthago. Fel gwobr, cafodd lawer o diroedd Carthago.
Yma y lladdodd Cato yr Ieuengaf ei hun wedi i'w blaid golli'r Rhyfel Cartref yn erbyn Iŵl Cesar yn 46 CC. Yn 439, cipiwyd y ddinas gan y Fandaliaid, ac yn 534 gan yr Ymerodraeth Fysantaidd. Dinistriwyd y ddinas gan yr Arabiaid yn niwedd y 7g.