Ucheldiroedd yr Alban
"Croeso i'r Ucheldiroedd" ar arwydd a osodwyd gan Gyngor yr Ucheldir, sy'n gweinyddu ardal sy'n llai o lawer na'r Ucheldiroedd ei hun.
Mae'r term daearyddol Ucheldiroedd yr Alban (Gaeleg : A' Ghàidhealtachd 'Gwlad y Gael', Saesneg Highlands ) yn cael ei arfer i ddisgrifio ardal fynyddig gogledd yr Alban sy'n gorwedd i'r gogledd ac i'r gorllewin o Rwyg Ffin yr Ucheldiroedd. Mae'r Glen Mawr yn gwahanu Mynyddoedd Grampian i'r de-ddwyrain oddi ar Ucheldiroedd Gogledd-orllewinol yr Alban .
Ychydig iawn o bobl sy'n byw yno gan fod tir cynhyrchiol yn brin a dominyddir y tirlun gan y cadwyni mynydd niferus. Mae'r dwysedd poblogaeth yn is ar gyfartaledd nag yn Sweden , Norwy , Papua Gini Newydd neu'r Ariannin . Ar un adeg, roedd y boblogaeth gryn dipyn yn fwy nag yw heddiw. Yn ystod ail hanner y 18g a hanner cyntaf y 19g , diboblogwyd yr Ucheldiroedd i raddau helaeth gan broses Clirio'r Ucheldiroedd . Gorfodwyd tenantiaid i ymadael â'u tyddynnod er mwyn gwneud lle i wartheg a defaid.
Mae'r canolfannau gweinyddol yn cynnwys Inverness. Cyngor yr Ucheldiroedd yw'r corff gweinyddol ar gyfer tua 40% o'r ardal; rhennir y gweddill rhwng ardaloedd cyngor Aberdeenshire , Angus , Argyll a Bute , Moray , Perth a Kinross , a Stirling . Yn ogystal cyfrifir rhan ogleddol Ynys Arran fel rhan o'r Ucheldiroedd yn ddaearyddol, er ei bod yn cael ei gweinyddu gan gyngor Gogledd Swydd Ayr .
Trefi a phentrefi
Aberfeldy , Aboyne , Alness , Altnaharra , Applecross , Aultbea , Aviemore ,
Back of Keppoch , Ballachulish , Beauly , Blair Atholl , Braemar
Cannich , Carrbridge , Coldbackie , Crianlarich , Cromarty , Culbokie
Dalwhinnie , Dingwall , Dornie , Dornoch , Durness
Fort Augustus , Fort William
Gairloch , Glencoe , Glenelg , Grantown-on-Spey
Inveraray , Invermoriston , Inverness (dinas ers 2001)
Killin , Kingussie , Kinlochleven , Kinlochewe , Kinloch Rannoch , Kyle of Lochalsh
Lochcarron , Lochinver
Mallaig
Nairn , Newtonmore , Nethy Bridge
Oban
Plockton , Poolewe , Portmahomack
Shieldaig , Strathpeffer , Strathy
Tain , Taynuilt , Thurso , Tobermory , Tomintoul , Tongue , Torridon
Ullapool
Wick
Lleoedd eraill o ddiddordeb
Gweler hefyd
Oriel
Gweler hefyd