Enwyd y pentref ar ôl hen bont a adeiladwyd yn 1717. Achoswyd difrod i'r bont yn ystod llifogydd enwog 1829 (Saesneg: "muckle spate"), a adawodd y bont yn y cyflwr y mae heddiw. Yn anffodus nid yw'n sefydlog iawn a gellir ei gweld o bell yn unig, roedd neidio oddiar y bont i'r afon isod wedi bod yn boblogaidd gynt. Mae plac gwybodaeth yn y Saesneg sy'n dangos llun o fel oedd y bont erstalwm a chasgliad arian i'r gymuned wrth y bont heddiw.
Yng Nghyfrifiad 2001, roedd poblogaeth o 708 yn byw yn y pentref, y rhanfwyaf wedi eu cyflogi ym maes twristiaeth. Roedd y pentref yn ganolfan sgio cynnar yn yr Alban. Mae'r ffordd A9 yn pasio gerllaw, cyn i'r ffordd osgoi gael ei adeiladu yn yr 1980au, roedd y briffordd hon yn rhedeg drwy ganol y pentref. Mae gorsaf reilfford yng Ngharrbridge ar Brif Reilffordd yr Ucheldiroedd.
Mae maes gwersylla Boys' Brigade wedi bod yn y pentref ers tipyn. Mae MonifiethBoys' Brigade wedi bod yn gwersylla yno ers 20 mlynedd.
Mae Canolfan Treftadaeth Nod Tir, wedi ei leoli yn ne'r pentref, sydd â sawl sleid dŵr ac amryw o weithgareddau ar gael er mwyn hwyl teuluol yn y goedwig drwy gydol y flwyddyn.
Mae dau gystadlaeaeth poblogaidd hefyd yn ael e dal yn y pentref yn flynyddol, sef Pencampwriaethau Uwd y Byd, Golden Spurtle a Chystadleuaeth Agored Albanaidd Cerfio Lli-gadwyn "Carve Carrbridge".
Mae dadl lleol yn dal i fod o amgylch sillafiad Carrbridge, gyda rhai pobl yn hapusach gyda'r enw wedi ei gyblysu i Carr-bridge. Nid oes gan y gair "Carr" unrhyw beth i'w wneud â cheir, mae'r enw'n tarddu o hen air Gaeleg sy'n golygu man corsig.
Mae gan y pentref glwb Pêl-droed, sy'n cystadlu yn y Badenoch & Strathspey Welfare League yn flynyddol yn ogystal ac mewn cystadlaethau Cypanau Lleol, sy'n fel rheol yn rhedeg Ebrill - Tachwedd. Mae'r maes PIel-droed cartref wedi ei leoli yng nghanol y pentref ger y maes parcio, eu lliwiau cartref yw streipieu du a gwyn unionsyth.