Capel yr Annibynwyr wedi'i godi mewn dull clasurol, Eidalaidd ydy Tŷ Glyn Dŵr, sydd bellach yn dŷ annedd. Saif mewn stryd o'r un enw (Heol Glyn Dŵr) yn Nhrefynwy, Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru.[1] Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn disgrifio'r adeilad fel "a chapel of exceptional sophistication and elaboration of design and one of the earliest Italianate chapels in Wales".[2] Enwyd y tŷ Fictoraidd hwn ar ôl y Tywysog Owain Glyn Dŵr.
Hanes
Y cefndir
Credir mai Annibynnwr cyntaf Cymru oedd John Penri, Piwritan o Frycheiniog a ddienyddiwyd yn 1593 am herio’r drefn eglwysig, ond tua chanol yr 17g y dechreuodd Piwritaniaeth fwrw ei gwreiddiau yng Nghymru. Corfforwyd yr eglwys gynulleidfaol gyntaf ar dir Cymru yn eglwys blwyf Llanfaches, Sir Fynwy, yn Nhachwedd 1639. Cyfarfu’r gynulleidfa fechan honno o dan weinidogaeth Walter Cradoc, Piwritan dysgedig o Fynwy, ac yn ôl atgofion ei gyd-Biwritaniaid, Morgan Llwyd o Wynedd a William Erbury, yr oedd yno gymdeithas wresog, seiadau brwd a chanu salmau nwyfus. Byrhoedlog fu'r sefyllfa hynny. Ym 1642, dechreuodd Rhyfeloedd Cartref Lloegr rhwng Siarl I a’i Senedd, a chan mai gyda’r brenin yr oedd cydymdeimlad y rhelyw o bobl Cymru, bu’n rhaid i nifer o’r Piwritaniaid ffoi i Loegr.
Annibynwyr Trefynwy
Roedd yr Annibynwyr wedi bod yn addoli yn Gât Dixton hyd at 1822, pan symudasant hwy i Heol y Santes Fair, i adeilad a alwyd yn Dŷ'r Dyffryn. Ym 1844 codwyd eu pac a symudwyd eto i Heol Glyn Dŵr. Aelodau'r capel hwn oedd y dinasyddion cyfoethocaf yn y dref ac yn ail hanner y 19g fe ddechreuasant hwy hefyd gymryd rhan flaenllaw iawn yn gymdeithasol yn enwedig yn niwylliant y gymdeithas e.e. yn eisteddfod y dref.[3] Roedd cyfoeth yr aelodau i'w weld yng ngwaith cywrain a chelfyddyd facade y capel. Mae yma hefyd nifer o ffenestri coffa, lliwgar iawn, sy'n brawf o'u cyfoeth. Gwnaed y ffenestri hyn gan y brodyr Camm o Smethwick.[4]
Yr adeilad
Codwyd y capel yn 1843-44 gan ddilyn cynlluniau'r pensaer William Armstrong o Fryste (sef Pont Caerodor). Diffinnir y brif ystafell gan golofnau Corinthaidd enfawr. Mae'n fersiwn llai o adeilad tebyg a godwyd gan Armstrong ym Mryste, sef Capel Brunswick.[5] Cofrestrwyd yr adeilad fel Gradd II* yn Hydref 1965.[6] Bu bron yn adfail am gyfnod, hyd nes y derbyniodd y perchennog nawdd gan Gadw i'w adfer, yn 2002.[2]