Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Moroco (Arabeg: منتخب المغرب لكرة القدم) yn cynrychioli Moroco yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Brenhinol Pêl-droed Moroco (Ffrengig: Fédération royale marocaine de football) ((FRMF)), corff llywodraethol y gamp yn Moroco. Mae'r FRMF yn aelod o gonffederasiwn pêl-droed Affrica, (CAF).
Mae Llewod yr Atlas (Arabeg: أسود الأطلس / Irzem n Atlasi) wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar bump achlysur yn 1970, 1986, 1994, 1998 a 2018 ac wedi ennill Pencampwriaeth Pêl-droed Affrica ar un achlysur yn 1976.
Cyfeiriadau