Mae tîm criced cenedlaethol Sri Lanca (Sinhala: ශ්රී ලංකා ජාතික ක්රිකට් කණ්ඩායම, Tamileg: இலங்கை தேசிய கிரிக்கெட் அணி, Saesneg: Sri Lanka national cricket team) yn cynrychioli Sri Lanca mewn criced rhyngwladol. Maent yn aelod llawn o'r Cyngor Criced Rhyngwladol. Eu llysenw yw "Y Llewod".
Hanes
Chwaraeodd y tîm griced rhyngwladol am y tro cyntaf (fel Ceylon) ym 1926–27, ac yn ddiweddarach dyfarnwyd statws Prawf iddynt ym 1981. O ganlyniad i hyn, Sri Lanka oedd yr wythfed wlad i chwarae criced Prawf. Enillon nhw Gwpan Criced y Byd ym 1996 [1] a Chwpan y Byd T20 yn 2014.[2]
Cyfeiriadau
Gweler hefyd