Mae Tyler Gregory Okonma[6] (ganwyd 6 Mawrth1991), yn cael ei adnabod yn well gan ei lysenw Tyler, The Creator, yn rapiwr, cynhyrchydd a chyfarwyddwr fideo o'r Unol Daleithiau. Fe'i ganed yn Ladera Heights, California, a daeth yn enwog fel arweinydd a chyd-sefydlwr y grŵp hip hop Odd Future. Mae wedi rapio a chynhyrchu popeth maent wedi eu rhyddhau.[7] Okonma sydd yn creu'r gwaith celf ar gyfer y grŵp - fe hefyd sy'n arlunio cynnyrch a dillad y grŵp.
Yn dilyn rhyddhau Goblin gyda XL Recordings, yn Ebrill 2011, rhyddhaodd ei ail albwm stiwdio Wolf, yn 2013. Derbyniodd yr albwm adolygiadau da yn gyffredinol a chychwynodd ar rif tri ar y Billboard 200 yn yr UDA. Gwerthodd 90,000 copi yn ei wythnos gyntaf. Mae ganddo ei gwmni dillad ei hun, sef Golf Wang, a sefydlwyd yn 2011, a charnifal o'r enw 'Camp Flog Gnaw'. Cynhaliwyd y carnifal yn flynyddol ers 2012.
Ar 25 Rhagfyr 2009, rhyddhaodd Tyler ei mixtape cyntaf, Bastard. Cafodd ei nodi gan Pitchfork y 32fed albwm gorau o 2010. Ar yr 11 Chwefror 2011, rhyddhaodd y fideo i'r gân "Yonkers," y sengl gyntaf o'i ail albwm, Goblin, a chafodd ei ryddhau ar y 10 Mai 2011.[15] Cafodd gryn dipyn o sylw yn y cyfryngau, gan ei fod wedi bwyta chwilod duon yn fyw ynddo. [16][17][18][19][20]
Yn dilyn rhyddhau "Yonkers" gwnaeth Tyler a chyd-aelod o OF, Hodgy Beats gwneud eu hymddangosiad cyntaf ar y teledu, ar 16 Chwefror 2011, pan berfformiwyd "Sandwitches" ar Late Night with Jimmy Fallon.[21] Ar Mawrth 16, perfformiodd Tyler a Hodgy "Yonkers" a "Sandwitches" ar y 2011 mtvU Woodie Awards. Roedd aelodau eraill Odd Future yn bresennol i'r perfformiad o "Sandwitches". Rhyddhawyd Goblin ar 10 Mai 2011.[22]
2012–14: Wolf a Loiter Squad
Yn 2011 dywedodd Tyler ar ei gyfrif Formspring y bydd ei drydydd albwm yn cael ei ryddhau ym Mai 2012, sef 'Wolf'. Ar yr albwm, a rhyddhawyd ar 2 Ebrill 2012 yn y diwedd, mae Tyler wedi defnyddio darnau o gerddoriaeth a grwewyd ganddo ers iddo fod yn 15 mlwydd oed.[23] Dywedodd Tyler bod yr albwm wedi canolbwyntio ar y bît, yn hytrach 'na'r rapio.
Enillodd Tyler "Artist Newydd Gorau" am "Yonkers" yn y 2011 MTV Video Music Awards.[24]
Rhyddhawyd Wolf ar 2 Ebrill 2013 gan Odd Future Records a RED Distribution o dan arweiniad Sony Music Entertainment. Ar yr albwm mae nifer o weisteion cerddorol megis Frank Ocean, Mike G, Domo Genesis, Earl Sweatshirt, Left Brain, Hodgy Beats, Pharrell, Casey Veggies ac Erykah Badu. Cafodd yr albwm ei gynhyrchu gan Tyler ei hun, heblaw am y gân olaf "Lone". Cafodd fideos eu rhyddhau ar gyfer y caneuon "Domo23", "Bimmer", "IFHY" a "Jamba". Derbynodd yr albwm adolygiadau da yn gyffredinol a chychwynodd ar rif tri ar y Billboard 200 yn yr UDA. Gwerthodd 90,000 copi yn ei wythnos cyntaf.
Ar 31 Ionawr 2014 adroddwyd yn y cyfryngau bod Tyler yn gweithio gyda Mac DeMarco.[25]
2015–16: Cherry Bomb
Ar 9 Ebrill 2015 rhyddhaodd Tyler "Fucking Young" ar dudalen swyddogol OFWGKTA ar YouTube gyda rhagolwg o gân arall o'r enw "Deathcamp".[26] Dywedodd Tyler ar ei gyfrif Twitter bydd yr albwm yn cynnwys pobl megis Charlie Wilson, Chaz Bundick a Cole Alexander o Black Lips.[27] Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, perfformiodd Tyler y ddwy gân am y tro cyntaf yng ngwyl gerdd Coachella. Beirniadodd Tyler yr adran VIP o'r gynulleidfa adeg y perfformiad, gan nodi eu bod nhw'n dawel.[28]
Rhyddhwyd pedwerydd albwm Tyler, Cherry Bomb, ar 13 Ebrill 2015 yn ddigidol ar ei label Odd Future Records,[29] gyda chopis corfforol â phump clawr gwahanol.[30][31][32] Yn perfformio ar yr albwm mae artistiaid megis Kanye West, Lil Wayne and Schoolboy Q.[33][34] Perfformiodd Tyler yr albwm o gwmpas y byd ond canslodd ei ddyddiadau yn Awstralia yn dilyn ymgyrch gan [35] Collective Shout oedd yn erbyn y ffordd roedd Tyler yn portreadu menywod yn ei gerddoriaeth.[36]
Ar 26 Awst 2015 cyhoeddodd Tyler ei fod wedi ei wahardd o'r Deyrnas Unedig am "3-5 mlynedd"; gorfodwyd ef i ganslo llawer o berfformiadau ar draws y wlad gan gynnwys yng ngwyliau cerddorol Reading a Leeds. Mae'r rheswm am hyn yn deillio o eiriau a sgwennodd Tyler nôl yn 2009, gan gynnwys yn ei ddwy albwm cyntaf Goblin a Bastard. Dywedodd eu rheolwr, Christian Clancy, y cafon nhw ei nodi am y gwaharddiad gan lythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May.[37] Dyfynodd May eiriau o'i albwm Bastard a dweud mai hyn oedd y rheswm am ei wahardd, er wnaeth Tyler teithio o amgylch y DU yn perfformio llawer o weithiau ers rhyddhau'r albwm yn 2009[38][39] Dywedodd Tyler ei fod yn teimlo y cafodd ei drîn "fel terfysgwr" a honodd bod y gwaharddiad yn gymhelliad hiliol.[40]