Cynhyrchydd, actor a model o'r Unol Daleithiauo'r Unol Daleithiau yw Rakim Nakache Mayers (ganwyd 3 Hydref1988) a adnabyddir drwy ei enw llwyfan ASAP Rocky (yn arddull: A$AP Rocky). Mae'n aelod o grŵp hip hop A$AP Mob.[1]
Cerddoriaeth
Rhyddhaodd Rocky ei mixtape gyntaf Live. Love. A$AP yn 2011. Arweiniodd y llwyddiant at gytundeb recordio gyda Polo Grounds Music, RCA Records, a Sony Music Entertainment. Wedi hynny recordiwyd ei albwm gyntaf, Long. Live. A$AP, a gafodd hefyd groeso gan feirniaid ac aeth i rif un ar siart Billboard 200. Yn 2015, rhyddhaodd Rocky ei ail albwm stiwdio o'r enw At. Long. Last. A$AP. Aeth hon hefyd i rhif un ar y Billboard 200, gan ei gwneud yn ail albwm olynol i Rocky; derbyniodd hefyd nifer o adolygiadau cadarnhaol gan feirniaid cerdd. Ei albwm mwyaf diweddar (Mawrth 2019) yw Testing.
Ar 25 Mai 2018, rhyddhaodd Rocky yr albwm Testing i adolygiadau cadarnhaol yn gyffredinol gan feirniaid. Aeth i mewn yn y bedwerydd safle ar siart Billboard 200 yr Unol Daleithiau, gan ddod y drydedd albwm i fynd i'r 5 uchaf ar y siart. Yn ei ail wythnos, disgynonod yr albwm i rif 15, gyda 26,000 o unedau cyfatebol albwm (1,000 copi). Yn ystod yr wythnos ganlynol, aeth Testing i rif 22 ar y siart.
Mae Rocky hefyd wedi cyfarwyddo fideos cerddoriaeth ei hun, Danny Brown, SpaceGhostPurrp ac aelodau A$AP Mob eraill. Mae hefyd yn gynhyrchydd recordiau nodedig, gan gynhyrchu o dan y ffugenw "Lord Flacko" neu "Pretty Flacko".
Ffasiwn
Ym mis Chwefror 2016, rhyddhaodd Guess gydweithrediad â Rocky o'r enw "GUE$$", a ysbrydolwyd gan addewid Rocky am ddillad 'hen' 90au y brand yr oedd yn ei wisgo tra'n tyfu i fyny.
Yn enwedig a hyn bydd Rocky yn headlinio llwyfanau tai ffasiwn fel Dior a Calvin Klein, a fydd o y "Rapper" cyntaf i neud.