Dywedir ei fod yn fab i Hywel Mawr (Hoel), un o frenhinoedd Llydaw. Teithiodd i Iwerddon i astudio, cyn ymsefydlu fel meudwy ar y lleiaf o'r ddwy ynys a elwir yn awr yn Ynysoedd Tudwal ger Penrhyn Llŷn. Gellir gweld olion priordy ar y lleiaf o'r ddwy ynys, sydd yn ôl traddodiad ar safle clas Tudwal. Mae hefyd draddodiad ei fod wedi treulio cyfnod yn Llanilltud Fawr, a bod sant Curig yn un o'i ddisgyblion yno.