Wedi i'r Undeb Sofietaidd ddod i ben yn 1991, cyhoeddodd Gweriniaeth Tsietsniaidd Itskeria ei hun yn annibynnol. Yn dilyn Rhyfel Cyntaf Tsietsnia, llwyddodd y weriniaeth hon i ennill annibyniaeth de facto, ond yn yr Ail Ryfel Tsietsniaidd adfeddiannwyd y diriogaeth gan Rwsia, gyda difrod mawr.
Daearyddiaeth
Mae Tsietsnia yn weriniaeth sy'n cwmpasu 17,300 km2 (6680 mi sg) ac mae wedi'i lleoli yn rhan ganolog y Cawcasws. Mae tua 35% o'r diriogaeth yn cynnwys mynyddoedd uchel.
Roedd Tsietsnia yn ran o'r Ymerodraeth Otomanaidd ers y 15fed ganrif, yn 1577 aeth yr Cosaciaid rhyddhaol o'r Volga yno ac ymgartrefu ar lannau'r Afon Terek, gan ffurfio cymuned o'r enw'r Talaith Cosac Terek. Yn 1783 llofnododd teyrnasoedd Rwsia a Georgia y gytundeb Georgievsk lle cyflwynodd y Kartli-Kakheti i gael y talaith i ddod yn rhan o'r awdurdod ymerodrol Rwsieg fel amddiffynfa. Er mwyn sicrhau cyfathrebu uniongyrchol rhwng Georgia a rhanbarthau eraill Transcawcasia, ceisiodd yr Ymerodraeth Rwsia ehangu ei rheolaeth dros Tsietsnia, gan achosi Rhyfel y Cawcasws ym 1817, yn enwedig yn yr ucheldiroedd derbyniodd yr byddin ymerodrol Rwsieg lawer o wrthwynebiad gan y Tsietsniaid. Anfonwyd byddin o 250,000 o filwyr yn ei herbyn o dan orchymyn y Cadfridog Aleksandr Baryatinskij a lwyddodd i chwalu'r gwrthryfel dim ond ym 1859, 42 mlynedd ar ôl cychwyniad y rhyfel. Atodwyd Tsietsnia i'r Ymerodraeth Rwsia ym 1783, er y bod digwyddodd lawer o gwrthryfeloedd cyfnodol yn yr ardal. Ymgorfforwyd Tsietsnia ac Ingushetia i'r Weriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Ymreolaethol Tsietieneg-Ingwsh ar adeg genedigaeth yr Undeb Sofietaidd ym 1917.
Yr gwrthryfel yn erbyn rheolaeth yr Undeb Sofietaidd
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cododd y Tsietsniaid yn erbyn y Rwsiaid gan obeithio manteisio ar ymrwymiad y fyddin Sofietaidd ar ffryntiau eraill i ennill annibyniaeth, ond unwaith wnaeth y Fyddin Goch gwthio'r milwyr yr Natsïaid yn ôl, gorchmynnodd Stalin gosbau lem ar y Tsietsniaid, gan gyhuddo nhw o gydweithio â'r Natsïaid (fodd bynnag, nid oes tystiolaeth hanesyddol ddilys i gefnogi'r cyhuddiad). Ar Chwefror 23, 1944, digwyddodd yr Alltudiad o Tsietsniaid a'r Ingwshetiaid; alltudiwyd hanner miliwn o ddinasyddion Tsietsieneg o'r Cawcasws i'r Weriniaeth Sofietaidd Kazakhstan mewn un noson.[1] Yma roedd y Tsietsniaid wedi'u wedi'u gwasgaru oddi wrth ei gylidd mewn ymgais i diradicaleiddio'r gwrthryfelwyr. Yn 1956 gorfodwyd y Tsietsniaid i addasu i'r polisiau newydd ynglŷn â'r defnydd a'r iaith Rwsieg yn yr Cawcasws.[2] Dim ond ym 1957 y caniatawyd iddynt ddychwelyd i'w rhanbarth.
Annibyniaeth Tsietsnia ar ôl gorffeniad yr Undeb Sofietaidd a'r Rhyfel Cyntaf Tsietsnia (1990au)
Ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd yn Tsietsnia, ganed mudiad annibyniaeth a ddaeth i wrthdaro â Rwsia a oedd yn anfodlon i gydnabod gwahaniad Tsietsnia a'r wlad. Cyhoeddodd Dzokhar Dudaev, arllywydd gwladgarwrol Y Weriniaeth Tsietsniaidd, annibyniaeth y genedl o Rwsia ym 1991, ni cytunwyd Arlywydd Rwsia, Boris Yeltsin, i hyn ac yna fel canlyniad dechreuodd y Rhyfel cyntaf Tsietsnia. Ym 1994, anfonodd Boris Yeltsin 30,000 o filwyr i'r weriniaeth i atal ei gwahaniad o'r Ffederasiwn, er gwaethaf i fyddinoedd Rwsia, a oedd ag offer gwael a digymhelliant, ddioddef hyd yn oed orchfygiadau sylweddol gan y gwrthryfelwyr[3], wnaethant lwyddo i reoli prifddinas y wlad, Grozny, ym mis Chwefror 1995. Llwyddodd i'r byddin Rwsieg hefyd i ladd yr Arlywydd Tsietsniadd, Dzokhar Dudaev, ar 21 Ebrill 1996, gyda thaflegryn.
Ar 6 Mawrth 1996, ymdreiddiodd rhwng 1,500 a 2,000 o wrthryfelwyr Tsietsniaidd y prifddinas ac am dri diwrnod lansiwyd ymosodiadau annisgwyl mewn sawl ardal yno, gan lwyddo hyd yn oed i gipio arfau a bwledi. Dwy mis wedyn, ar 28 Mai 1996, datganodd Arlywydd Rwsia fuddugoliaeth yn Grozny, ar ôl "cadoediad" dros dro gydag yr Arlywydd Tsietsniaidd, dros dro Zelikhan Yandarbiyev,[4] ond parhaodd y lluoedd arfog â'r rhyfel. Ar 6 Awst 1996, dridiau cyn i Yeltsin gael ei benodi’n arlywydd Rwsia am yr ail dymor a phan symudwyd y rhan fwyaf o filwyr Rwsia i’r de i aros am y ymosodiad olaf yn y cadarnleoedd gwrthryfelol yn y mynyddoedd. Er hynny, lansiodd gwrthryfelwyr Tsietsniaidd ymosodiad syndod am y brifddinas. Ymosododd Shamil Basayev, wrth reoli tua 5000 o ddynion, ar Grozny ar 6 Awst 1996, gan lwyddo i feddiannu holl bwyntiau allweddol y ddinas. Roedd y llwyddiant yr ymosodiad gan yr gwrthryfelwyr a’r nifer uchel o garcharorion o Rwsia a cafodd eu dal wedi gorfodi Aleksandr Lebed i drafod a lofnodi cytundeb Chasavjurt, a gymeradwyodd fuddugoliaeth ddiffiniol Tsietsieneg. Yn diwedd mis Awst 1996, cytunodd Yeltsin gydag arweinwyr Tsietieneg am gadoediad yn Dagestan; arweiniodd at yr arwyddiad o'r cytundeb heddwch ym 1997. Ar ddiwedd Rhyfel Cyntaf Tsietsnia (1994-96) roedd Aslan Maskhadov, pennaeth lluoedd y gwrthryfelwyr wedi arwyddo gadoediad gyda lluoedd arfog Rwsia ac yna fe etholwyd ef yn Arlywydd cyntaf Tsietsnia. Etholwyd Aslan Maskhadov i dymor o bedair blynedd mewn etholiad a gynhaliwyd o dan fonitro rhyngwladol ym mis Ionawr 1997. Fel canlyniad o'r rhyfel, gadawodd lawer o'r poblogaeth Rwsieg y wlad.[5]
Ail Rhyfel Tsietsnia
Ar ôl Rhyfel Cyntaf Tsietsnia, dinistriwyd y wlad yn economaidd ac yn seicolegol. Dinistriwyd y rhan fwyaf o'r seilwaith, ynghyd â dinasoedd a gweithgareddau diwydiannol. Roedd gweithgareddau troseddol a’r blocâd economaidd parhaus ar ôl y rhyfel wedi cyrydu’r gwead economaidd-gymdeithasol a gadael y cae ar agor am dreiddiad mwy eithafol o Wahhabiaeth, yn enwedig yn rhannau gwannach a tlotach y boblogaeth fel y di-waith a’r ifanc. Ym mis Awst 1999, goresgynnodd Shamil Basayev (Cadfridog byddin jihadaidd Tsietsnia) a byddinau jihadaidd a nad oedd yn rhan o fyddin swyddogol Tsietsnia, ar Ddagestan.
Ar yr un pryd â goresgyniad tiriogaeth Dagestan, cynhaliwyd cyfres o ymosodiadau bom mewn rhai tai ym Moscfa a Folgodonsc ac mewn nhref yn Nagestan, Bujnaksk. Ar 4 Medi 1999, roedd un o’r ymosodiadau hyn ar adeilad a oedd yn gartref i deuluoedd plismyn Rwsieg. Roedd yr ymosodiadau, a barhaodd am y pythefnos nesaf, wedi lladd cyfanswm o 362 o fob[7] l a anafu mwy na 1000.[8] Cyhuddodd awdurdodau Rwsieg, llywodraeth Boris Yeltsin ar y pryd, ymwahanwyr Tsietsniaidd am yr ymosodiadau.[9]
Fodd bynnag, honnodd rhai gwleidyddion proffil uchel yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys SeneddwrJohn McCain, fod yr ymosodiadau wedi’u paratoi gan wasanaethau cudd Rwsieg (yr FSB yn benodol) gyda’r nod o ryddhau ymgyrch yn erbyn yr ymwahanwyr Tsietsniaid i gyfiawnhau y goresgyniad yn Tsietsnia ym 1994.[10] Cadarnhawyd yr honiadau hyn yn ddiweddarach gan gyn asiant cudd Rwseg, Aleksandr Litvinenko, yn y llyfr Blowing Up Russia: Terror From Within.[11] Ar 30 Medi 1999, dechreuodd lluoedd Rwsieg oresgyniad Chechnya, gan bron fwrw'r brifddinas Grozny i'r llawr.[12] Yn 2001, cyhoeddodd Maskhadov archddyfarniad yn ymestyn ei swyddfa fel arlywydd am flwyddyn arall. Fodd bynnag, ni lwyddodd i gymryd rhan yn etholiadau arlywyddol 2003, o gofio bod y pleidiau ymwahanol wedi eu gwahardd o'r weriniaeth o dan y reolaeth y Rwsiaid. Hefyd roedd e wedi'i gyhuddo o fod yn rhan o luoedd ymwahanol. Gorfodwyd Maskhadov i encilio i'r mynyddoedd fel canlyniad i hyn.
Bu laddwyd Aslan Maskhadov gan wasanaethau Rwsieg ar 9 Mawrth 2005, yna daeth arweinydd newydd i'r gwahanyddion, Abdul Halim Sadulayev. Yn 2005 roedd ef wedi i ddiswyddo hen weinidogion diweddar Maskhadov, gan ddisodli nhw gyda ffigurau mwy eithafol fel Shamil Basayev. Ar 17 Mehefin 2006, lladdodd milwyr arbennig Rwsieg Sadulayev ac ar 9 Gorffennaf 2006, fe laddwyd Shamil Basayev; oherwydd ei troseddau terfysgol.[13] Ar 16 Ebrill 2009, cyhoeddwyd bod y gweithrediadau yn erbyn terfysgaeth yn Tsietsnia gan y lywodraeth Rwsieg wedi cael ei chau yn swyddogol a'u trosglwyddo i lywodraeth Tsietsnia yn llawn.[14]
Y Weriniaeth Tsietsniaidd ar ôl y rhyfel
Mewn etholiad dan oruchwyliaeth ryngwladol ar 5 Hydref 2003, etholwyd y cyn arweinydd crefyddol ymwahanol (mwffti) Akhmad Kadyrov, yn arlywydd gydag 83 y cant o'r bleidlais.
Cafodd Akhmad Kadyrov ei lofruddio yn stadiwm pêl-droed Grozny ar Fai 9, 2004 gan fom a blannwyd o dan lwyfan a daliodd lawer o unigolion pwysig arno. Cafodd ei danio yn ystod gorymdaith, ac ar ôl y digwyddiad, enwyd Sergey Abramov yn brif weinidog y weriniaeth dros dro. Fodd bynnag, mae Ramzan Kadyrov (mab Akhmad Kadyrov) wedi bod yn Brif Weinidog er 2005, ac fe’i henwyd yn Arlywydd yn 2007.
Yr ieithoedd a ddefnyddir yn y weriniaeth yw Tsietsnieg ac Rwsieg. Mae'r iaith Tsietsnieg yn perthyn i deulu iaith Vaynakh, neu'r teulu o ieithoedd Gogledd-canolog y Cawcasws.
Mae gan Tsietsnia un o'r poblogaethau ieuengaf yn Rwsia.[16]
Yn ôl Cyfrifiad 2010, poblogaeth y weriniaeth yw 1,268,989;[17] i fyny o 1,103,686 a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2002.
Grwpiau ethnig
Grwpiau ethnig yn nhiriogaeth fodern y Weriniaeth Tsietsniaidd.[18]