Iaith Dyrcig yw Tsafasieg a siaredir gan y Tsafasiaid yn Tsafasia a thiroedd cyfagos ar hyd ganol Afon Volga, yng nghanolbarth Rwsia Ewropeaidd. Dyma'r unig iaith fyw sydd yn disgyn o'r hen iaith Fwlgareg. Mae Tsafasieg yn dra-gwahanol i'r ieithoedd Tyrcig eraill, ac ar un pryd roedd ieithyddion yn credu iddi perthyn i gangen rhwng yr ieithoedd Tyrcig a Mongolig, neu yn ffurf Dyrcigedig ar iaith Ffinno-Wgrig.[1]
Cyfeiriadau